Blwch Cwestiynau
◼ Pwy ddylai wneud cais ar-lein neu lenwi cwpon yn ein cyhoeddiadau i ofyn am wybodaeth?
Yn aml, mae ein cyhoeddiadau yn cynnwys cwpon y gellir ei lenwi a’i anfon i swyddfa’r gangen i ofyn am ddeunydd darllen neu am i un o Dystion Jehofah alw heibio. Ar ben hynny, gellir mynd i’r wefan www.watchtower.org i ofyn am astudiaeth Feiblaidd. Dyma sut mae llawer yn dysgu’r gwirionedd. Fodd bynnag, mae problemau wedi codi ar ôl i gyhoeddwyr ddefnyddio’r dulliau hyn i drefnu help ysbrydol i’w perthnasau ac eraill.
Mae rhai sydd wedi derbyn deunydd darllen na ofynnwyd amdano wedi cwyno, gan deimlo bod y gyfundrefn yn eu poeni nhw heb fod angen, a bod eu henwau wedi eu rhoi ar ryw fath o restr bostio. Mae rhai cyhoeddwyr wedi wynebu sefyllfa ddigon annifyr ar ôl iddyn nhw alw ar rywun nad oedd wedi gofyn am i rywun alw. Felly, dylai ceisiadau ar ffurf cwpon neu drwy gyfrwng ein gwefan ddod oddi wrth yr unigolyn ei hun yn hytrach nag oddi wrth y cyhoeddwr. Fel rheol, pan fo’r gangen yn gweld bod cais wedi ei anfon ar ran rhywun arall, maen nhw yn ei anwybyddu.
Sut, felly, y gallwn ni helpu perthnasau ac eraill yn ysbrydol? Os ydych yn dymuno iddyn nhw dderbyn gwybodaeth, pam na wnewch chi anfon deunydd darllen yn anrheg atyn nhw? Os ydyn nhw wedi mynegi diddordeb ac yn dymuno i un o’r Tystion alw heibio a chithau ddim yn gwybod sut i gysylltu â henuriaid y gynulleidfa yn eu hardal nhw, fe ddylech lenwi’r ffurflen Please Follow Up (S-43-E) a’i rhoi i ysgrifennydd y gynulleidfa, er mwyn iddo adolygu’r cais a’i anfon ymlaen i swyddfa’r gangen. Fodd bynnag, os yw’r unigolyn yn y ddalfa neu’r carchar, yn yr ysbyty neu mewn canolfan adfer, ni ddylech gysylltu â’r gangen ar ei ran. Yn hytrach, dylech annog yr unigolyn naill ai i gysylltu â’r brodyr sy’n ymweld â’r sefydliadau hynny neu i ysgrifennu i swyddfa’r gangen.