Gweithredwch yn Gyflym
Ers i’n gwefan gael ei hailwampio, mae’r nifer sy’n gwneud ceisiadau drwy’r we am astudiaethau Beiblaidd wedi ei gynyddu’n aruthrol. Hefyd, mae ceisiadau ychwanegol yn dod trwy fentrau tystiolaethu cyhoeddus. Mae’r swyddfa gangen yn prosesu’r rhain mor gyflym ag sy’n bosibl. Er enghraifft, pan fydd rhywun yn llenwi cais ar jw.org, mae’r gangen yn anfon y wybodaeth honno ymlaen i’r henuriaid lleol o fewn deuddydd. Ond, mae adborth o’r maes yn awgrymu bod rhai sydd wedi gwneud ceisiadau am astudiaethau Beiblaidd wedi bod yn aros am wythnosau. Sut y gallwn ni sicrhau fod rhywun yn galw cyn i’r diddordeb ddiflannu?—Marc 4:14, 15.
Os yw rhywun yn dangos diddordeb ond yn byw yn nhiriogaeth gynulleidfa arall, llenwch y ffurflen Please Follow Up (S-43) yn syth, a’i rhoi i’ch ysgrifennydd dim hwyrach nag eich cyfarfod nesaf. O fewn diwrnod neu ddau, dylai’r ysgrifennydd un ai ei rhoi i’r gynulleidfa briodol, neu ei hanfon i swyddfa’r gangen drwy ddefnyddio’r tab Congregation ar jw.org. Dylai henuriaid edrych ar y wefan yn aml. Os ydyn nhw’n derbyn gwybodaeth ynglŷn â rhywun sydd wedi dangos diddordeb, dylen nhw weithredu’n gyflym. Wedyn, dylai’r cyhoeddwr sy’n cael ei aseinio i fynd i weld y person ei gwneud hi’n flaenoriaeth. Os nad yw’r deiliad cartref, efallai gallwch ysgrifennu nodyn ato gyda’ch manylion cyswllt.