Cyhoeddiadau
◼ Y cynnig ar gyfer mis Mawrth: Beth Mae’r Beibl yn Ei Wir Ddysgu? Ebrill a Mai: Y Watchtower a’r Awake! Os yw rhywun yn dangos diddordeb, cynigiwch y traethodyn Hoffech Chi Wybod y Gwir? Wrth fynd yn ôl i weld y rhai a ddaeth i’r Goffadwriaeth neu i ddigwyddiadau eraill yn y gwirionedd, ond nad ydyn nhw’n aelodau gweithredol o’r gynulleidfa, eich nod fydd dechrau astudiaethau yn y llyfr Beibl Ddysgu. Mehefin: Beth Mae’r Beibl yn Ei Wir Ddysgu?
◼ Cynhelir y Goffadwriaeth ar nos Iau, Ebrill 5, 2012. Os yw eich cynulleidfa’n cynnal cyfarfod fel arfer ar nos Iau, bydd y cyfarfod hwnnw yn cael ei gynnal ar noson arall, os bydd Neuadd y Deyrnas ar gael. Os nad yw hyn yn bosibl, ac mae’n effeithio ar eich Cyfarfod Gwasanaeth, gellir cynnwys unrhyw rannau sydd yn arbennig o berthnasol i’ch cynulleidfa mewn Cyfarfod Gwasanaeth arall.
◼ Byddwn yn ystyried y ddau fideo Young People Ask, sef How Can I Make Real Friends? a What Will I Do With My Life? yn y Cyfarfodydd Gwasanaeth i ddod. Os oes angen copïau arnoch, dylid eu harchebu drwy’r gynulleidfa cyn gynted ag y bo modd.