Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Ebrill
“Mae bedyddio yn gyffredin mewn llawer o eglwysi. Beth rydych chi’n ei feddwl? Ydy bedydd yn bwysig? [Arhoswch am ymateb.] Mae sylwadau diddorol yn yr erthygl hon.” Rhowch gopi o’r Watchtower Ebrill 1 i’r deiliad, trafodwch y deunydd o dan yr is-bennawd cyntaf ar dudalen 16 ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y cylchgronau, a threfnwch i alw’n ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Ebrill 1
“Mae gan bawb farn wahanol ynglŷn â Iesu. Mae rhai yn credu mai ef oedd y Meseia ond mae eraill yn teimlo mai dim ond dyn da oedd Iesu. Ac mae rhai yn credu nad oedd Iesu’n bodoli o gwbl. Beth ydy eich barn chi? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Beibl yn dweud ei bod hi’n bwysig inni wybod y gwir amdano. [Darllenwch Ioan 17:3.] Mae’r cylchgrawn hwn yn dangos beth yw atebion y Beibl i gwestiynau cyffredin ynglŷn â Iesu.”
Awake! Ebrill
“Rydyn ni’n galw heddiw gyda gwybodaeth arbennig i helpu teuluoedd. A fyddech chi’n cytuno bod teuluoedd o dan bwysau mawr heddiw? [Arhoswch am ymateb.] Dyma lle mae llawer o deuluoedd wedi dod o hyd i gyngor ymarferol. [Darllenwch Salm 119:105] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod sut mae llysdeuluoedd wedi ymdopi â’u sialensiau unigryw trwy ddilyn egwyddorion y Beibl.”