LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 7/12 t. 8
  • Cyhoeddiadau

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cyhoeddiadau
  • Ein Gweinidogaeth—2012
Ein Gweinidogaeth—2012
km 7/12 t. 8

Cyhoeddiadau

◼ Y cynnig ar gyfer Gorffennaf ac Awst: Defnyddiwch un o’r llyfrynnau canlynol: A Gafodd Bywyd ei Greu? neu Llyfr i Bawb. Wrth fynd yn ôl, ystyriwch anghenion y person a chyflwynwch naill ai’r llyfr Beibl Ddysgu, neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth, gyda’r nod o ddechrau astudiaeth. Medi a Hydref: Y Watchtower a’r Awake! Wrth fynd yn ôl, ystyriwch anghenion y person a chyflwynwch naill ai’r llyfr Beibl Ddysgu, neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth, gyda’r nod o ddechrau astudiaeth.

◼ Ysgolion Arloesi: Cynhaliwyd 46 o Ysgolion Arloesi ym Mhrydain ac Iwerddon eleni. O’r 1,513 o arloeswyr a aeth i’r ysgolion, roedd 461 yn mynychu am yr ail dro. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am letygarwch a llafur pawb a weithiodd mor galed i sicrhau bod yr ysgolion yn llwyddiannus. Sylwer na fydd Ysgolion Arloesi’n cael eu cynnal yn ystod y gaeaf o 2013 ymlaen, ond fe’u cynhelir ym mis Awst.

◼ Coffadwriaeth: Roedd 225,351 yn bresennol ym Mhrydain a 297 yn cyfranogi. Yn Iwerddon roedd 11,282 yn bresennol a 14 yn cyfranogi.

◼ Bydd Sing to Jehovah—Vocal Rendition, Disg 5 ar gael i’w lawrlwytho ar y Wefan jw.org ar Awst 1. Fersiwn Saesneg yw hwn, ond bydd fersiynau mewn ieithoedd eraill ar gael ymhen amser. Gallwch archebu CDs sain trwy eich cynulleidfa. Gan fod lawrlwytho o’n gwefan yn rhatach na chynhyrchu a dosbarthu CDs, byddai’n well i bobl lawrlwytho’r ffeiliau os medran nhw. Mae Disgiau 1-4 eisoes ar gael.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu