Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd Ddydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Awst
“Mae llawer heddiw yn meddwl am Iesu fel babi neu fel dyn ar fin marw. Beth ydych chi’n meddwl mae Iesu yn ei wneud nawr? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae hwn yn ei ddweud.” Rhowch gopi o’r Watchtower Awst 1 i’r deiliad, trafodwch y deunydd o dan yr is-bennawd cyntaf ar dudalen 16 a darllenwch o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y cylchgronau, a threfnwch i alw’n ôl i drafod yr ateb i’r cwestiwn nesaf.
The Watchtower Awst 1
“Mae llawer o bobl yn credu mewn gwyrthiau, ond mae eraill yn amheus. Ydych chi’n meddwl bod gwyrthiau yn digwydd? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r addewid hwn yn rhoi gobaith i lawer. [Darllenwch un o’r adnodau ar dudalennau 9-10.] Mae’r cylchgrawn hwn yn rhoi tri rheswm dros gredu mewn gwyrthiau.”
Awake! Awst
“Heddiw, mae llawer o bobl yn ofni mynd allan ar eu pennau eu hunain, yn enwedig ar ôl iddi dywyllu. Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bosibl i rywbeth ddigwydd i wneud y byd yn lle mwy diogel? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r cylchgrawn hwn yn awgrymu sut gallwn ni fod yn fwy heddychlon ag eraill. Y mae hefyd yn trafod sut bydd y broffwydoliaeth galonogol hon yn cael ei chyflawni.” Darllenwch Salm 72:7.