LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 8/12 t. 1
  • Diogelwch Eich Cydwybod

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Diogelwch Eich Cydwybod
  • Ein Gweinidogaeth—2012
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut Mae Cadw Cydwybod Lân?
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Sut Galla i Hyfforddi Fy Nghydwybod?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
Ein Gweinidogaeth—2012
km 8/12 t. 1

Diogelwch Eich Cydwybod

1. Beth yw thema’r cynulliad undydd arbennig ar gyfer blwyddyn wasanaeth 2013, a beth yw pwrpas y rhaglen?

1 Bob dydd, rydyn ni’n wynebu sefyllfaoedd a all halogi ein cydwybod. Dyna pam mae’r cynulliad undydd arbennig ar gyfer blwyddyn wasanaeth 2013 yn dwyn y thema “Diogelwch Eich Cydwybod.” (1 Tim. 1:19) Pwrpas y rhaglen hon yw i’n helpu ni i roi sylw manwl i’r ffordd rydyn ni’n defnyddio’r gydwybod, sydd yn rhodd werthfawr oddi wrth ein Creawdwr.

2. Pa gwestiynau bydd y rhaglen yn eu hateb?

2 Pwyntiau i’w Nodi: Bydd y rhaglen yn ateb saith prif gwestiwn ynglŷn â’r gydwybod:

• Beth sy’n peryglu’r gydwybod?

• Sut gallwn ni hyfforddi ein cydwybod?

• Sut gallwn ni osgoi bod yn waed-euog?

• Beth mae meddwl am egwyddorion y Beibl a gweithredu arnyn nhw yn ei ddatgelu amdanon ni?

• Sut gallwn ni osgoi clwyfo cydwybod pobl eraill?

• Bobl ifanc, beth gallwch chi ei wneud pan fyddwch chi dan bwysau i gyfaddawdu?

• Pa fendithion a ddaw i’r rhai sy’n dilyn cydwybod sydd wedi’i hyfforddi gan ysbryd Duw?

3. Sut gallwn ni elwa ar y rhaglen?

3 Gyda chymorth Jehofah mae’n bosibl inni wrthsefyll ymdrechion Satan i halogi ein cydwybod. Mae ein Tad nefol cariadus yn defnyddio ei Air a’i gyfundrefn i ddweud wrthon ni: “Dyma’r ffordd, rhodiwch ynddi.” (Esei. 30:21) Mae’r rhaglen hon yn esiampl o’r ffordd y mae Jehofah yn rhoi arweiniad inni. Felly, trefnwch ichi fod yn bresennol ar gyfer y rhaglen gyfan. Gwrandewch yn astud ac ystyriwch sut y gallwch roi’r wybodaeth ar waith yn eich bywydau. Wedyn, adolygwch y rhaglen gyda’ch teulu. Wrth roi ar waith yr hyn a ddysgwn ni, gallwn barhau i ‘gadw ein cydwybod yn lân’ ac osgoi cael ein denu at bleserau dros dro byd Satan.—1 Pedr 3:16.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu