Rhaglen Wythnos Awst 13
WYTHNOS YN CYCHWYN AWST 13
Cân 17 a Gweddi
□ Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa:
lv atodiad tt. 219-221 (25 mun.)
□ Ysgol y Weinidogaeth:
Darlleniad o’r Beibl: Eseciel 28-31 (10 mun.)
Rhif 1: Eseciel 28:17-26 (hyd at 4 mun.)
Rhif 2: Didoli’r Ffeithiau Oddi Wrth y Fytholeg Ynglŷn â Iesu Grist (5 mun.)
Rhif 3: Beth Ddywedodd Iesu Ynglŷn â Marwolaeth?—bh t. 59 ¶7-8 (5 mun.)
□ Cyfarfod Gwasanaeth:
5 mun: Cyhoeddiadau.
10 mun: Gosod Sylfaen i Alw’n Ôl. Trafodaeth yn seiliedig ar y cwestiynau canlynol: (1) Pam mae hi’n beth da i osod sylfaen i alw’n ôl ar yr alwad gyntaf a sut medrwn ni wneud hyn? (2) Sut gallwn ni ddewis gwestiwn i adael a fydd yn ennyn diddordeb y deiliad? (3) Pam mae’n dda i drefnu amser penodol ar gyfer y drafodaeth nesaf ac, os yw’n bosibl, gael rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost y deiliad? (4) Pam dylen ni fynd yn ôl yn brydlon, efallai o fewn ychydig o ddyddiau? (5) Beth ddylen ni nodi ar ôl yr alwad gyntaf?
10 mun: Cyfwelwch â chyhoeddwr neu ddau sydd yn y gwasanaeth llawn amser. Sut cawson nhw eu hannog i ddechrau yn y gwasanaeth llawn amser? Beth sydd wedi ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw barhau yn y gwasanaeth llawn amser, ond beth sydd wedi eu helpu nhw i ddal ati? Pa fendithion maen nhw wedi eu mwynhau? Anogwch y cyhoeddwyr i ystyried arloesi’n barhaol yn ystod y flwyddyn wasanaeth nesaf.
10 mun: “Diogelwch Eich Cydwybod.” Cwestiynau ac atebion. Os yw ar gael, cyhoeddwch ddyddiad y cynulliad undydd arbennig.
Cân 18 a Gweddi