Newidiadau i’r Cyfarfod Canol Wythnos
O Fedi 3 ymlaen, bydd Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa yn para am 30 munud yn lle 25 munud. Yn ei gyflwyniad, dylai’r arweinydd dreulio un munud yn adolygu’r wers flaenorol. Yn ogystal â hyn, bydd y Cyfarfod Gwasanaeth yn para am 30 munud yn lle 35 munud. Ymhellach, ni fydd rhan benodol ar gyfer cyhoeddiadau. Bydd unrhyw gyhoeddiadau yn cael eu gwneud ar ddechrau’r eitem gyntaf. Gan amlaf, ni fydd angen darllen llawer o gyhoeddiadau, os unrhyw gyhoeddiadau o gwbl, ac nid oes angen cyhoeddi’r eitemau ar y rhaglen. Ni ddylid cyhoeddi trefniadau ar gyfer y weinidogaeth na threfniadau ar gyfer glanhau, nac unrhyw gyfarchion chwaith. (km-E 10/08 t. 1, par. 4) Os bydd angen cyhoeddiad hir, peth da fyddai ddweud o flaen llaw wrth y rhai sy’n cymryd rhan yn y cyfarfod fel eu bod nhw’n gallu cwtogi eu rhannau.