Y DVD: Young People Ask —What Will I Do With My Life? (Rhan 1)
Mae’r DVD Young People Ask—What Will I Do With My Life? wedi ei baratoi er mwyn helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau pwysig wrth iddyn nhw dyfu i fyny. Ar ôl cychwyn y DVD, dewiswch Play Drama, a cheisiwch ateb y cwestiynau yn yr ail baragraff isod. Wedyn, dewiswch Interviews o’r brif ddewislen, gwyliwch y rhan Looking Back, ac yna ceisiwch ateb y cwestiynau ym mharagraff 3.
Drama: (1) Sut roedd sefyllfa Timotheus yn debyg i sefyllfa llawer o Gristnogion ifainc heddiw? (2) Sut roedd pobl yn rhoi pwysau ar Andre i ragori mewn chwaraeon? (3) Beth ddysgodd Andre gan y Brawd Fleissig (a) am ymgysegru i Jehofah ac am ymgysegru i chwaraeon? (Math. 6:24) (b) am ffynhonnell gwir hapusrwydd? (c) am yr hyn roedd ei bowlen o’r gwersyll crynhoi yn ei atgoffa? (ch) am y bobl oedd yn y llun gydag ef a’i wraig? (d) am deimladau’r Brawd Fleissig ynglŷn â rhoi’r gorau i’w freuddwydion? (Phil. 3:8) (4) Sut atebodd nain Andre ei gwestiwn, “Beth sydd o’i le efo eisiau bod yn rhedwr enwog?” (Luc 4:5-7) (5) A wnaeth ennill y ras roi gwir hapusrwydd i Andre? (6) Beth wnaeth eich taro chi am y llythyr olaf a gafodd Andre gan y Brawd Fleissig? (Diar. 10:22) (7) Beth ddysgodd Andre oddi wrth y Brawd Fleissig?
Looking Back: (8) Pa yrfaoedd roedd y brawd a’r chwaer yn eu dilyn, a pham? (9) Pa mor llwyddiannus oedden nhw? (10) Beth achosodd iddyn nhw newid eu gyrfaoedd? (2 Cor. 5:15) (11) Pa yrfaoedd theocrataidd a gymerodd le’r rhai gynt, a pham nad oedd yn bosibl iddyn nhw ddilyn y ddau lwybr? (12) Oedden nhw’n difaru newid cyfeiriad eu bywydau? (13) Beth ddywedon nhw sydd wedi gwneud i chi feddwl am beth y dylech chi ei wneud yn eich bywyd chi?
Gwyliwch weddill y cyfweliadau a’r wybodaeth ychwanegol, a pharatowch i rannu eich sylwadau yn y Cyfarfod Gwasanaeth wythnos nesaf.