Y DVD: Young People Ask —What Will I Do With My Life? (Rhan 2)
O brif ddewislen y DVD Young People Ask—What Will I Do With My Life? dewiswch Interviews, ac wedyn Sections. Ar ôl gwylio’r tair rhan, adolygwch y deunydd drwy ddefnyddio’r cwestiynau yn yr ail baragraff. Wedyn, dewiswch Supplementary Material o’r brif ddewislen, ac ar ôl gwylio’r pum cyfweliad ychwanegol, defnyddiwch y cwestiynau ym mharagraff 3 ar gyfer adolygu.
Sections—Dedication to Vain Pursuits or to God: (1) Mae pobl ifanc yn wynebu pwysau i gyrraedd pa nodau? (2) Sut gall 1 Ioan 2:17 helpu pobl ifanc i ddewis i ba raddau y dylen nhw fanteisio ar addysg uwch? (3) Pam na ddylen ni ymatal rhag cael ein bedyddio oherwydd bod ofn arnon ni? (4) Beth fydd yn ein helpu ni i fod yn gymwys ar gyfer bedydd? Learning to Enjoy Your Ministry: (5) Pam nad yw rhai yn mwynhau’r weinidogaeth? (6) Pa bethau a all ein helpu ni? (7) Beth mae rhai’n ei ofni, hyd yn oed yn fwy na siarad â rhywun dieithr, a pham? (8) Sut gallwn ni drechu ein hofnau a meithrin yr hyder i siarad ag eraill? (9) Pam mae datblygu rhywfaint o grefft yn y weinidogaeth yn bwysig? An Open Door to Service: (10) Sut mae arloesi’n creu llawer o gyfleoedd inni gynyddu’n ysbrydol? (Phil. 3:16) (11) Beth sy’n dal rhai yn ôl rhag dechrau arloesi? (12) Pa egwyddorion Ysgrythurol a all ein helpu ni i ymdopi â phryderon economaidd? (13) Pa fath o waith y mae rhai wedi ei wneud sy’n caniatáu iddyn nhw arloesi? (14) Beth gallwn ni ei wneud os nad ydy ein hamgylchiadau yn caniatáu inni wasanaethu’n llawn amser?
Supplementary material—The Value of Personal Study: (15) Pam mae astudiaeth bersonol gyson yn bwysig? Alternative Witnessing (Tystiolaethu Cyhoeddus): (16) Sut bydd cael rhan mewn gwahanol ffyrdd o bregethu yn dod â llawenydd? Bethel Service: (17) Pa freintiau sy’n dod o weithio yn y Bethel? Ministerial Training School (Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Brodyr Sengl): (18) Sut mae rhai wedi elwa ar fynychu’r ysgol hon? Gilead Missionary Training: (19) Sut gwnaeth Peter a Fiona baratoi i wasanaethu fel cenhadon, a pha les cawson nhw o fynychu Gilead?