Cyhoeddiadau
◼ Medi a Hydref: Naill ai’r llyfr Beibl Ddysgu neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth, gan ddibynnu ar anghenion y person. Eich nod fydd dechrau astudiaeth.
◼ Tachwedd a Rhagfyr: Gellir defnyddio traethodyn o’r rhestr ganlynol: Jehofah—Pwy Ydi E?, Bywyd Mewn Byd Newydd o Heddwch, Hoffech Chi Wybod y Gwir? Os oes diddordeb, dangoswch sut mae astudio’r Beibl gan ddefnyddio’r llyfr Beibl Ddysgu neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth.
◼ Bydd yr anerchiad cyhoeddus arbennig ar gyfer tymor y Goffadwriaeth 2013 yn cael ei draddodi yn ystod wythnos Ebrill 1. Cyhoeddir testun yr anerchiad maes o law. Os bydd arolygwr y gylchdaith yn ymweld â’r gynulleidfa neu os bydd cynulliad yr wythnos honno, cynhelir yr anerchiad arbennig yr wythnos wedyn. Ni ddylai’r un gynulleidfa drefnu i gael yr anerchiad arbennig cyn Ebrill 1.
◼ Gellir archebu cyhoeddiadau blynyddol ar gyfer 2013 yn awr.