Rhaglen Wythnos Hydref 1
WYTHNOS YN CYCHWYN HYDREF 1
Cân 12 a Gweddi
□ Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa:
lv pen. 14 ¶1-9 (30 mun.)
□ Ysgol y Weinidogaeth:
Darlleniad o’r Beibl: Daniel 4-6 (10 mun.)
Rhif 1: Daniel 4:18-28 (hyd at 4 mun.)
Rhif 2: Pam Mae Gwir Gristnogion yn Osgoi Ysbrydegaeth? (5 mun.)
Rhif 3: Pwy Sydd Ymhlith y Rhai a Fydd yn Cael Eu Hatgyfodi?—bh t. 71 ¶16–t. 73 ¶20 (5 mun.)
□ Cyfarfod Gwasanaeth:
5 mun: Dechrau Astudiaeth Feiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf. Gan ddefnyddio’r cyflwyniad enghreifftiol ar y dudalen hon, dangoswch sut y gallwn ni ddechrau astudio’r Beibl gyda rhywun ar y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Hydref. Anogwch bawb i gymryd rhan.
15 mun: Sut Hwyl Gawson Ni Arni Llynedd? Anerchiad gan yr arolygwr gwasanaeth. Adolygwch pa mor effeithiol oedd y gynulleidfa yn y weinidogaeth yn ystod y flwyddyn wasanaeth ddiwethaf, canolbwyntiwch ar y llwyddiant, a rhowch ganmoliaeth briodol. Trefnwch gyfweliad gyda chyhoeddwr neu ddau sydd wedi cael profiadau da. Anogwch y gynulleidfa i roi sylw i rannau o’r weinidogaeth y gellir eu gwella yn ystod y flwyddyn i ddod, gan gynnwys awgrymiadau ymarferol.
10 mun: Syniadau ar Gyfer Cynnig y Cylchgronau ym Mis Hydref. Trafodaeth. Treuliwch rhwng 30 a 60 eiliad i egluro pam bydd y cylchgronau yn apelio at bobl yn y diriogaeth. Nesaf, gan ddefnyddio erthyglau sy’n cael sylw ar glawr y Watchtower, gofynnwch i’r gynulleidfa gynnig cwestiynau a fydd yn ennyn diddordeb, ac awgrymu adnodau i’w darllen. Gwnewch yr un fath ar gyfer yr erthyglau ar glawr Awake! ac, os oes digon o amser, ar gyfer un erthygl arall o’r naill gylchgrawn neu’r llall. Dangoswch sut y gellir cynnig pob cylchgrawn.
Cân 99 a Gweddi