Y DVD: Young People Ask —How Can I Make Real Friends?
Fe wnaeth Jehofah ein creu ni i gymdeithasu a gwneud ffrindiau. (Diar. 17:17; 18:1, 24) Er mwyn inni gael perthnasau gydag eraill sydd o fantais i’r naill a’r llall, mae’n rhaid inni ddewis ein ffrindiau’n ofalus. (Diar. 13:20) Ar ôl ichi wylio’r DVD Young People Ask—How Can I Make Real Friends?, a fedrwch chi ateb y cwestiynau canlynol?
Introduction:
(1) Beth yw ffrind go iawn?
Roadblocks to Friendship:
(2) Beth gallwn ni ei wneud os ydyn ni’n teimlo bod pobl eraill yn ein gadael ni allan? (Phil. 2:4) (3) Pam dylen ni geisio gwella ein personoliaeth, a phwy all ein helpu ni? (2 Cor. 13:11) (4) Sut gallwn ni greu cyfleoedd i ennill ffrindiau?—2 Cor. 6:13.
Friendship With God:
(5) Sut gallwn ni feithrin perthynas agos â Jehofah, a pham mae hynny’n werth yr ymdrech? (Salm 34:8) (6) Os yw Jehofah yn ffrind gorau inni, sut bydd hynny yn ein helpu ni i gael perthynas lesol â phobl eraill?
The Wrong Kind of Friends:
(7) Pwy all fod yn gwmni drwg? (1 Cor. 15:33) (8) Sut gall cwmni drwg ddifetha ein perthynas â Jehofah?
A Modern-Day Drama:
(9) Beth ddysgwn ni o hanes Dina? (Gen. 34:1, 2, 7, 19) (10) Sut gwnaeth Tara gyfiawnhau cymdeithasu â ffrindiau nad oedd yn y gwir? (11) Sut gwnaeth ffrindiau Tara ei rhoi hi mewn perygl? (12) Pam na welodd rhieni Tara ei bod hi mewn perygl, ond ar ôl darganfod y broblem, sut gwnaethon nhw ymateb a’i helpu hi yn ysbrydol? (13) Sut dangosodd arloeswraig ei bod hi’n ffrind da i Tara? (14) Ym mha ffordd roedd agwedd Tara wedi newid?
Conclusion:
(15) Beth ddysgoch chi o wylio’r DVD hwn? (16) Sut medrwch chi ddefnyddio’r DVD hwn i helpu eraill?
Gadewch inni ddewis ffrindiau a fydd yn ein helpu ni i gadw’r berthynas bwysicaf oll—cyfeillgarwch â Duw!—Salm 15:1, 4; Esei. 41:8.