Cynnig Astudiaeth er Gwaethaf Teimlo’n Anghymwys
1. Pam mae rhai yn dal yn ôl rhag cynnig astudiaethau Beiblaidd?
1 A ydych chi’n dal yn ôl rhag cynnig astudiaethau Beiblaidd oherwydd eich bod chi’n teimlo’n na fedrwch chi gynnal astudiaeth yn effeithiol? Ar adegau, roedd gweision ffyddlon fel Moses a Jeremeia yn teimlo’n anghymwys i gyflawni eu haseiniadau. (Ex. 3:10, 11; 4:10; Jer. 1:4-6) Dydy teimladau o’r fath ddim yn anghyffredin. Sut gallwn ni drechu teimladau o’r fath?
2. Pam na ddylen ni fod yn fodlon ar bregethu o ddrws i ddrws yn unig a gadael i eraill gynnal astudiaethau?
2 Dylen ni gofio nad yw Jehofah yn gofyn inni wneud unrhyw beth sydd y tu hwnt i’n gallu. (Salm 103:14) Felly, mae ein comisiwn i ‘wneud disgyblion’ ac i’w “dysgu” yn un y medrwn ni ei gyflawni. (Math. 28:19, 20) Dydy Jehofah ddim wedi rhoi’r fraint hon i’r rhai mwyaf profiadol neu’r rhai mwyaf galluog yn ein plith ni yn unig. (1 Cor. 1:26, 27) Felly, ddylen ni ddim fod yn fodlon ar bregethu o ddrws i ddrws yn unig gan adael i eraill wneud y gwaith o gynnal astudiaethau Beiblaidd.
3. Sut mae Jehofah wedi ein gwneud ni’n gymwys i ddysgu eraill am y Beibl?
3 Mae Jehofah yn Ein Gwneud Ni’n Gymwys: Jehofah sydd yn ein gwneud ni’n gymwys i wneud disgyblion. (2 Cor. 3:5) Trwy gyfrwng ei gyfundrefn y mae wedi ein dysgu ni am wirioneddau’r Beibl, gwirioneddau dydy hyd yn oed y bobl fwyaf addysgedig yn y byd ddim yn eu deall. (1 Cor. 2:7, 8) Mae Jehofah wedi sicrhau bod gennyn ni esiampl i’w hefelychu ynglŷn â sut i ddysgu eraill, sef, esiampl yr Athro Mawr, Iesu. Hefyd, mae’n rhoi hyfforddiant parhaol inni yn y gynulleidfa. Yn ychwanegol, mae Jehofah wedi rhoi cwricwlwm inni i’w dilyn drwy gyfrwng darpariaethau fel y llyfr Beibl Ddysgu, sy’n dysgu’r gwirionedd mewn ffordd resymegol a hawdd ei ddeall. Felly, does dim rhaid inni greu cwricwlwm ein hunain. Efallai, gall cynnal astudiaeth Feiblaidd fod yn haws nag yr ydych chi’n ei ddisgwyl.
4. Pam gallwn ni fod yn hyderus y bydd Jehofah yn ein helpu ni?
4 Roedd Moses a Jeremeia yn medru cyflawni eu haseiniadau gyda chymorth Jehofah. (Ex. 4:11, 12; Jer. 1:7, 8) Medrwn ninnau hefyd ofyn am gymorth Jehofah. Wedi’r cwbl, pan ydyn ni’n dysgu eraill am y Beibl, rydyn ni’n dysgu’r gwirionedd am Jehofah iddyn nhw, ac mae hyn yn ei blesio. (1 Ioan 3:22) Felly, gwnewch eich gorau i gymryd rhan yn y gwaith o gynnal astudiaethau Beiblaidd a mwynhau’r bendithion.