Rhaglen Wythnos Tachwedd 26
WYTHNOS YN CYCHWYN TACHWEDD 26
Cân 91 a Gweddi
□ Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa:
lv pen. 16 ¶15-22, a’r blwch t. 194 (30 mun.)
□ Ysgol y Weinidogaeth:
Darlleniad o’r Beibl: Micha 1-7 (10 mun.)
Rhif 1: Micha 3: 1-12 (hyd at 4 mun.)
Rhif 2: Beth y Bydd Teyrnas Dduw yn ei Wneud?—bh t. 80 ¶15–t. 82 ¶21 (5 mun.)
Rhif 3: Pam Rydyn Ni’n Gwybod Bod Jehofah yn Gwrando ar Ein Gweddïau?—1 Ioan 5:14 (5 mun.)
□ Cyfarfod Gwasanaeth:
5 mun: Cychwyn Astudiaeth o’r Beibl ar y Dydd Sadwrn Cyntaf. Gan ddefnyddio’r cyflwyniad enghreifftiol ar dudalen 4, dangoswch sut y gellir dechrau astudiaeth ar y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Rhagfyr. Anogwch bawb i gael rhan.
10 mun: Mae Cyfraniadau Rhai yn Cyflenwi Diffyg Eraill. Anerchiad gan henuriad yn seiliedig ar Watchtower Tachwedd 15, 2012, tudalennau 8-9.
15 mun: “Cynnig Astudiaeth er Gwaethaf Bywyd Prysur.” Cwestiynau ac atebion. Trefnwch gyfweliad byr â rhywun sydd wedi cynnal astudiaeth Feiblaidd er ei fod yn brysur.
Cân 41 a Gweddi