Cynnig Astudiaeth er Gwaethaf Bywyd Prysur
1. Pam mae rhai yn dal yn ôl rhag cynnig astudio’r Beibl gyda rhywun?
1 Mae rhai yn dal yn ôl rhag cynnig astudiaethau Beiblaidd am eu bod nhw’n brysur. Mae’n cymryd amser i ofalu am rywun rydyn ni yn ei ddysgu. Mae’n cymryd amser i baratoi ar gyfer yr astudiaeth, i gynnal yr astudiaeth, ac i helpu’r myfyriwr i ddelio â phroblemau. Roedd yr apostol Paul yn fodlon ei roi ei hun er mwyn helpu pobl yn Thesalonica i ddod i adnabod Jehofah. (1 Thes. 2:7, 8) Sut gallwn ni astudio’r Beibl gyda rhywun hyd yn oed petaen ni’n hynod o brysur?
2. Sut mae ein cariad at Jehofah yn effeithio ar y ffordd rydyn ni’n defnyddio ein hamser?
2 Mae’n Cymryd Amser i Addoli: Y gwir amdani yw ei bod hi’n cymryd amser i addoli. Er enghraifft, rydyn ni’n neilltuo amser i fynychu’r cyfarfodydd, i gael rhan yn y weinidogaeth, i ddarllen y Beibl, ac i weddïo. Bydd cyplau priod yn neilltuo amser i’w dreulio gyda’i gilydd hyd yn oed pan fyddan nhw’n brysur. Gymaint yn fwy, felly, y dylen ni ‘ddal ar ein cyfle’ i addoli Jehofah oherwydd cariad. (Eff. 5:15-17; 1 Ioan 5:3) Yn ôl Iesu, mae’r gwaith o wneud disgyblion yn rhan hanfodol o’n haddoliad. (Math. 28:19, 20) Bydd myfyrio ar hyn yn ein helpu ni i dderbyn y cyfrifoldeb o astudio’r Beibl gydag eraill.
3. Sut medrwn ni ofalu am ein myfyrwyr hyd yn oed petai rhywbeth yn amharu ar ein trefniadau ar gyfer y weinidogaeth?
3 Ond, beth am yr adegau pan fydd gwaith, afiechyd parhaol, neu aseiniadau theocrataidd yn amharu ar ein trefniadau ar gyfer y weinidogaeth? Weithiau, mae rhai cyhoeddwyr yn trefnu astudio gyda rhywun dros y ffôn neu dros y rhyngrwyd pan fyddan nhw’n gorfod mynd i ffwrdd. Mae rhai sy’n ymdopi â phroblemau iechyd yn trefnu i’w myfyrwyr ddod i’w cartrefi nhw ar gyfer yr astudiaeth. Mae eraill wedi trefnu i gyhoeddwr dibynadwy gynnal yr astudiaeth pan nad ydyn nhw ar gael.
4. Pa fendithion a ddaw o ddysgu eraill am y Beibl?
4 Cafodd Paul lawenydd mawr drwy roi ei amser a’i egni i helpu eraill i ddysgu’r gwir. (Act. 20:35) Pan feddyliodd ef am ffrwyth ei lafur yn Thesalonica, gafodd ei ysgogi i roi diolch i Jehofah. (1 Thes. 1:2) Mawr fydd y llawenydd yn ein calonnau ni os ydyn ni’n benderfynol o beidio â gadael i’n bywydau prysur ein rhwystro ni rhag cymryd rhan yn y gwaith o ddysgu eraill am y Beibl.