“Syniadau ar Gyfer Cynnig y Cylchgronau ym Mis . . .”
Bob mis ceir eitem yn y Cyfarfod Gwasanaeth sydd yn ein helpu ni i gynnig y cylchgronau. Nid adolygu’r cylchgronau yw pwrpas yr eitem hon. Yn hytrach, y pwrpas yw trafod syniadau ar gyfer cynnig y cylchgronau. Felly, yn ôl y cyfarwyddiadau, dylai’r brawd sy’n cymryd yr eitem roi cyflwyniad byr iawn i ennyn diddordeb yn y cylchgronau. Yna, y mae’n trafod un erthygl (neu gyfres o erthyglau) ar y tro, ac yn gofyn i’r gynulleidfa am eu barn fel y gall pawb ddilyn y sgwrs a nodi’r syniadau y maen nhw am eu defnyddio. Yn hytrach na gwahodd y gynulleidfa i roi cyflwyniadau cyfan, y mae’n gofyn am syniadau ynglŷn â chwestiynau diddorol, ac yna yn gofyn i’r gynulleidfa gynnig adnodau i’w darllen. Y mae’n cloi gyda dangosiadau sy’n awgrymu sut y gellir cynnig y ddau gylchgrawn. Peth da fyddai darllen y cylchgronau cyn inni ddod i’r cyfarfod er mwyn cynnig syniadau. Os yw pawb yn paratoi o flaen llaw, bydd hyn yn ein helpu ni i hogi meddyliau ein gilydd.—Diar. 27:17.