Rhaglen Wythnos Rhagfyr 24
WYTHNOS YN CYCHWYN RHAGFYR 24
Cân 92 a Gweddi
□ Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa:
bh pen. 1 ¶1-10 (30 mun.)
□ Ysgol y Weinidogaeth:
Darlleniad o’r Beibl: Sechareia 9-14 (10 mun.)
Rhif 1: Sechareia 11:1-13 (hyd at 4 mun.)
Rhif 2: Digwyddiadau Cadarnhaol yn y Dyddiau Diwethaf—bh pen. 9 ¶12-18 (5 mun.)
Rhif 3: Ym Mha Sefyllfaoedd y Gellir Rhoi Diarhebion 15:1 ar Waith? (5 mun.)
□ Cyfarfod Gwasanaeth:
30 mun: Sut i Wneud Defnydd Da o’n Gwefan Swyddogol. Trafodaeth yn seiliedig ar dudalennau 3-6. Wrth drafod tudalen 4, trefnwch ddangosiad tri munud sy’n dangos teulu ar fin gorffen eu Haddoliad Teuluol. Mae pen y teulu yn gofyn am syniadau ynglŷn â beth i’w drafod yr wythnos nesaf, ac mae’r plant yn dewis pynciau sydd o ddiddordeb iddyn nhw o’r adran “Teenagers” sydd ar y wefan. Gofynnwch i’r gynulleidfa ddweud sut y maen nhw wedi defnyddio, neu yn mynd i ddefnyddio, jw.org ar gyfer eu hastudiaeth bersonol neu deuluol. Wrth ystyried tudalen 5, trefnwch ddangosiad tri munud sy’n dangos cyhoeddwr yn defnyddio dyfais symudol i agor y wefan er mwyn ateb cwestiwn deiliad ynglŷn â’n credoau. Wrth drafod tudalen 6, trefnwch ddangosiad pedwar munud sy’n cynnwys cyhoeddwr yn siarad â rhywun sy’n dangos diddordeb, ond sydd yn dymuno darllen rhywbeth yn ei iaith ei hun. Mae’r cyhoeddwr yn defnyddio naill ai ei ddyfais symudol neu gyfrifiadur y deiliad i ddangos tudalen o’r traethodyn Hoffech Chi Wybod y Gwir? neu’r llyfr Beibl Ddysgu i’r deiliad yn ei iaith ef, ac yna’n trafod y cynnwys. Gofynnwch i’r gynulleidfa ddweud sut y maen nhw wedi defnyddio jw.org yn y weinidogaeth.
Cân 64 a Gweddi