Cyhoeddiadau
◼ Rhagfyr: Gellir defnyddio traethodyn o’r rhestr ganlynol: Jehofah—Pwy Ydi E?, Bywyd Mewn Byd Newydd o Heddwch, Hoffech Chi Wybod y Gwir? Os oes diddordeb, dangoswch sut mae astudio’r Beibl gan ddefnyddio’r llyfr Beibl Ddysgu neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth. Ionawr a Chwefror 2013: Gellir defnyddio llyfryn o’r rhestr ganlynol: Beth Sy’n Digwydd Inni Pan Rydym Yn Marw?, neu Dod Yn Ffrind i Dduw! Wrth fynd yn ôl, ystyriwch anghenion y person a dangoswch y llyfr Beibl Ddysgu neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth. Eich nod fydd dechrau astudiaeth. Mawrth: Ydy Duw Yn Gwir Ofalu Amdanon Ni? Wrth fynd yn ôl, ystyriwch anghenion y person a chyflwynwch naill ai’r llyfr Beibl Ddysgu, neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth, gyda’r nod o ddechrau astudiaeth.
◼ Nos Lun, Ebrill 14 yw’r dyddiad ar gyfer y Goffadwriaeth yn 2014.
◼ Bydd cyhoeddwyr sy’n arloesi’n gynorthwyol ym mis Mawrth 2013 yn medru dewis gweithio tuag at gyfanswm o 30 awr neu 50 awr. Hefyd, os bydd arolygwr y gylchdaith yn ymweld â’r gynulleidfa ym mis Mawrth, bydd croeso i bawb sy’n arloesi’n gynorthwyol ddod i’r cyfarfod cyfan rhwng yr arolygwr a’r arloeswyr parhaol.