Rhaglen Wythnos Ionawr 7
WYTHNOS YN CYCHWYN IONAWR 7, 2013
Cân 63 a Gweddi
□ Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa:
bh tt. 195-197 (30 mun.)
□ Ysgol y Weinidogaeth:
Darlleniad o’r Beibl: Mathew 1-6 (10 mun.)
Rhif 1: Mathew 5:21-32 (hyd at 4 mun.)
Rhif 2: Pwy Yw Mihangel yr Archangel?—bh tt. 218-219 (5 mun.)
Rhif 3: Beth Yw Ystyr Geiriau Jehofah “Myfi Yw Dy Gyfran Di”?—Num. 18:20 (5 mun.)
□ Cyfarfod Gwasanaeth:
10 mun: Syniadau ar Gyfer Cynnig y Cylchgronau ym Mis Ionawr. Trafodaeth. Treuliwch rhwng 30 a 60 eiliad i egluro pam y bydd y cylchgronau yn apelio at bobl yn y diriogaeth. Nesaf, gan ddefnyddio’r erthyglau sy’n cael sylw ar glawr y Watchtower, gofynnwch i’r gynulleidfa gynnig cwestiynau a fydd yn ennyn diddordeb, ac awgrymu adnodau i’w darllen. Gwnewch yr un fath ar gyfer yr erthyglau ar glawr yr Awake! ac, os oes digon o amser, ar gyfer un erthygl arall o’r naill gylchgrawn neu’r llall. Dangoswch sut y gellir cynnig pob cylchgrawn.
10 mun: Anghenion lleol.
10 mun: Mae Neuadd y Deyrnas Lân yn Anrhydeddu Jehofah. Anerchiad gan henuriad. Mae Jehofah yn Dduw sanctaidd, felly mae glendid corfforol yn bwysig iawn i’w bobl. (Ex. 30:17-21; 40:30-32) Rydyn ni’n anrhydeddu Jehofah drwy gadw ein haddoldai yn lân ac mewn cyflwr da. (1 Pedr 2:12) Rhowch brofiadau lleol, neu rai sydd wedi eu cyhoeddi, sy’n dangos sut mae cyflwr Neuadd y Deyrnas wedi rhoi tystiolaeth i’r gymuned. Trefnwch gyfweliad â’r brawd sy’n cydlynu’r gwaith i lanhau ac i gynnal a chadw’r neuadd ynglŷn â’r trefniadau lleol. Anogwch bawb i gymryd rhan yn y gwaith o lanhau Neuadd y Deyrnas.
Cân 73 a Gweddi