LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 2/13 t. 3
  • Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth
  • Ein Gweinidogaeth—2013
Ein Gweinidogaeth—2013
km 2/13 t. 3

Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth

Bydd y cwestiynau canlynol yn cael eu trafod yn Ysgol y Weinidogaeth yn ystod yr wythnos yn cychwyn Chwefror 25, 2013. Rhoddir y dyddiad y bydd pob cwestiwn yn cael ei drafod fel y gellir gwneud ymchwil wrth baratoi ar gyfer yr ysgol bob wythnos.

1. Pam dywedodd Iesu y byddai’r “rhai sy’n galaru” yn hapus? (Math. 5:4) [Ion. 7, w09-E 2/15 t. 6 par. 6]

2. Yng Ngweddi’r Arglwydd, beth oedd Iesu yn ei feddwl pan ddywedodd: “Paid â’n dwyn i brawf”? (Math. 6:13) [Ion. 7, w04-E 2/1 t. 16 par. 13]

3. Pam dywedodd Iesu na fyddai ei ddisgyblion “wedi cwblhau trefi Israel cyn dyfod Mab y Dyn”? (Math. 10:23) [Ion. 14, w10-E 9/15 t. 10 par. 12; w87-E 8/1 t. 8 par. 6]

4. Pa ddau beth sy’n dod i’r amlwg yn eglureb Iesu ynglŷn â’r hedyn mwstard? (Math. 13:31, 32) [Ion. 21, w08-E 7/15 tt. 17-18 par. 3-8]

5. Pa wers roedd Iesu yn ei dysgu pan ddywedodd: “Heb gymryd eich troi a dod fel plant, nid ewch fyth i mewn i deyrnas nefoedd”? (Math. 18:3) [Ion. 28, w07-E 2/1 tt. 9-10 par. 3-4]

6. Beth oedd ystyr geiriau Iesu: “Ti a ddywedodd hynny”? (Math. 26:63, 64) [Chwef. 11, w11-E 6/1 t. 18]

7. Pam y gelwir Iesu “yn arglwydd hyd yn oed ar y Saboth”? (Marc 2:28) [Chwef. 18, w08-E 2/15 t. 28 par. 7]

8. Beth oedd y rheswm y tu ôl i’r hyn a ddywedodd Iesu ynglŷn â’i fam a’i frodyr, a beth mae ei ateb yn ei ddysgu i ni? (Marc 3:31-35) [Chwef. 18, w08-E 2/15 t. 29 par. 5]

9. Fel y mae Marc 8:22-25 yn ei gofnodi, pam, efallai, cymerodd Iesu ddau gam i adfer golwg y dyn dall, a beth gallwn ni ei ddysgu o hyn? [Chwef. 25, w00-E 2/15 t. 17 par. 7]

10. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o ymateb Iesu i gerydd Pedr ym Marc 8:32-34? [Chwef. 25, w08-E 2/15 t. 29 par. 6]

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu