Oes Rhaid Ichi Orffen?
Mae rhai cyhoeddwyr yn gorffen yn y weinidogaeth yr un amser bob tro maen nhw’n mynd allan, efallai am hanner dydd. Wrth gwrs, bydd amgylchiadau rhai cyhoeddwyr yn golygu bod angen iddyn nhw orffen erbyn amser penodol. Ond, ydych chi’n gorffen pregethu oherwydd bod eraill yn y grŵp yn gorffen, neu oherwydd bod pawb wedi arfer stopio ar yr amser hwnnw? Ydy hi’n bosibl ichi aros allan am ychydig o funudau ychwanegol a thystiolaethu’n gyhoeddus, efallai ar y stryd? Allwch chi alw’n ôl ar rywun ar eich ffordd adref? Meddyliwch am y lles y gallwch ei wneud drwy ddod o hyd i un person sydd â diddordeb, neu drwy adael y cylchgronau gyda rhywun sy’n mynd heibio! Os nad oes angen inni orffen, fe fydd gwneud ychydig mwy o funudau yn y weinidogaeth yn ffordd hawdd o gynyddu’r “aberth moliant” rydyn ni’n ei offrymu i Jehofah.—Heb. 13:15.