LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 3/13 t. 14
  • Cyhoeddiadau

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cyhoeddiadau
  • Ein Gweinidogaeth—2013
Ein Gweinidogaeth—2013
km 3/13 t. 14

Cyhoeddiadau

◼Y cynnig ar gyfer mis Mawrth a mis Ebrill: Ydy Duw Yn Gwir Ofalu Amdanon Ni? Wrth fynd yn ôl, ystyriwch anghenion y person a chyflwynwch naill ai’r llyfr Beibl Ddysgu, neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth, gyda’r nod o ddechrau astudiaeth. Mai a Mehefin: Gellir defnyddio unrhyw draethodyn o’r rhestr ganlynol: Pwy Sy’n Rheoli’r Byd?, Bywyd Mewn Byd Newydd o Heddwch, neu Hoffech Chi Wybod y Gwir? Os oes diddordeb, dangoswch sut mae astudio’r Beibl drwy ddefnyddio naill ai’r llyfr Beibl Ddysgu neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth.

◼Cynhelir y Goffadwriaeth nos Fawrth, 26 Mawrth, 2013. Os yw eich cynulleidfa fel arfer yn cynnal cyfarfod ar nos Fawrth, dylid cynnal y cyfarfod hwnnw ar noson arall os bydd Neuadd y Deyrnas ar gael. Os oes rhaid canslo’r Cyfarfod Gwasanaeth, gall cydlynydd corff yr henuriaid addasu’r rhaglen ar gyfer y mis er mwyn cynnwys unrhyw rannau sydd yn arbennig o berthnasol i’r gynulleidfa. I gynulleidfaoedd sydd ag ymweliad arolygwr y gylchdaith dylid aildrefnu cyfarfod arferol nos Fawrth i ryw noson arall yr wythnos honno.

◼Cynhaliwyd seremoni graddio dosbarth cyntaf yr Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Cristnogion Priod ar 2 Rhagfyr, 2012 yn Neuadd y Deyrnas Clondalkin, Dulyn, yn Iwerddon. Ar ôl 278 awr o hyfforddi yn y dosbarth a thua 150 awr o waith cartref, aeth y 12 cwpl adref i’w cynulleidfaoedd i aros am eu haseiniadau newydd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu