Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Ebrill
“Rydyn ni’n annog ein cymdogion i ddarllen eu Beiblau, ond mae llawer yn teimlo fod y Beibl yn anodd ei ddeall. Ydych chi’n cytuno? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae hyn yn ei ddweud.” Dangoswch ran 3 o’r llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! a thrafodwch yr wybodaeth o dan y pedwerydd cwestiwn ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y llyfryn a threfnwch i alw’n ôl i drafod cwestiwn arall.
The Watchtower Ebrill 1
“Mae pawb yn gorfod ymdopi â phroblemau. Mae hyn yn achosi i rai gofyn beth yw pwrpas bywyd. Beth ydych chi’n meddwl yw’r rhwystr mwyaf sy’n stopio pobl rhag bod yn hapus? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Beibl yn addo y bydd Duw, yn fuan iawn, yn cael gwared â’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu. [Darllenwch Datguddiad 21:4.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod ein gobaith am y dyfodol a sut y gallwn ni gael pwrpas yn ein bywydau heddiw.”
Awake! Ebrill
“Mae trais yn y cartref yn broblem fyd-eang. Mae rhai yn teimlo bod diwylliant yr unigolyn yn ffactor sy’n cyfrannu at hyn, ynghyd â’r cefndir teuluol ac adloniant treisgar. Beth ydych chi’n meddwl yw’r prif reswm am drais yn y cartref? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Beibl yn dangos sut y dylai gwŷr a gwragedd drin ei gilydd. [Darllenwch Effesiaid 5:33.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod sut mae rhai wedi achub eu priodasau drwy roi egwyddorion Beiblaidd ar waith.”