Defnyddio Ein Gwefan i Ddysgu’ch Plant
1. Beth yw pwrpas y rhan “Children” o’n Gwefan?
1 Mae ein Gwefan, jw.org, wedi ei chynllunio er mwyn apelio at bobl o bob oedran. Mae’r rhan “Children” (ewch i Bible Teachings > Children) o’n Gwefan yn helpu plant bach a’u rhieni i agosáu at ei gilydd ac at Jehofah. (Deut. 6:6, 7) Sut gallwch chi ddefnyddio’r rhan hon o’n Gwefan i ddysgu eich plant?
2. Sut gallwch chi ddewis deunydd astudio addas ar gyfer eich plant?
2 Bod yn Hyblyg: Mae gan bob plentyn anghenion unigryw. (1 Cor. 13:11) Felly, sut gallwch chi ddewis deunydd astudio sy’n addas i oedran eich plant? Ystyriwch y cwestiynau hyn: ‘Beth fydd yn dal sylw fy mhlant? A fydden nhw’n deall y wers? Am faint o amser gallan nhw ganolbwyntio?’ Gyda phlant hyd at dair oed, gallwch drafod y storïau o dan “Gwersi Bach o’r Beibl.” Mae rhai teuluoedd yn mwynhau storïau’r Beibl yn y rhan “Teach Your Children.” Hefyd, ystyriwch yr opsiynau canlynol.
3. Sut gall rhieni wneud defnydd da o’r storïau a’r gweithgareddau o dan “Family Worship Projects”?
3 Prosiectau Addoliad Teuluol: Adnoddau yw’r prosiectau hyn er mwyn helpu pen y teulu i astudio gyda’i blant. Gyda phob prosiect, cliciwch y botwm i lawrlwytho’r “Parent’s Guide” a darllen sut i ddefnyddio’r storïau a’r gweithgareddau. Defnyddiwch y lluniau, fel y lluniau lliwio, i ddysgu eich plant bach. Helpwch y plant hŷn i gwblhau’r gweithgareddau astudio. Mae’r gweithgareddau ym mhob prosiect yn dod o’r un stori neu wers. Felly, gall plant o bob oedran gael rhan yn yr un prosiect yn ystod addoliad y teulu.
4. Beth sydd i’w ddarganfod yn y rhan “Become Jehovah’s Friend”?
4 Dod yn Ffrind i Jehofah: Mae’r fideos, y caneuon, a’r gweithgareddau yn y rhan hon o’n Gwefan yn helpu rhieni i ddysgu Gair Duw i’w plant bach. (Deut. 31:12) Mae pob cartŵn yn dysgu gwers bwysig. Mae gweithgareddau fel y gemau chwilio yn pwysleisio’r gwersi. Mae plant yn hoff iawn o ganu, ac mae caneuon yn helpu plant i gofio beth maen nhw wedi ei ddysgu. Felly, mae caneuon y Deyrnas a chaneuon arbennig ar gyfer plant yn cael eu cyhoeddi’n aml.
5. Pam dylai rhieni ofyn i Jehofah am help i ddysgu’r gwirionedd i’w plant?
5 Rieni, mae Jehofah eisiau i chi fod yn llwyddiannus. Felly, gofynnwch iddo am help i ddysgu’r gwirionedd i’ch plant. (Barn. 13:8) Gyda chymorth Jehofah, gallwch hyfforddi eich plant i fod ‘yn ddoeth a’u dwyn i iachawdwriaeth trwy ffydd yng Nghrist Iesu.’—2 Tim. 3:15; Diar. 4:1-4.