Rhaglen Wythnos Hydref 28
WYTHNOS YN CYCHWYN HYDREF 28
Cân 48 a Gweddi
□ Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa:
bh pen. 15 ¶11-20 (30 mun.)
□ Ysgol y Weinidogaeth:
Darlleniad o’r Beibl: 1 Timotheus 1–2 Timotheus 4 (10 mun.)
Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth (20 mun.)
□ Cyfarfod Gwasanaeth:
5 mun: “Beth Wnewch Chi yn Ystod y Gwyliau?” Anerchiad.
10 mun: Pwysleisiwch Werth Ymarferol y Newyddion Da. Trafodaeth yn seiliedig ar y llyfr Ministry School, tudalen 159. Trefnwch ddangosiad o sut gallwn ni gyflwyno’r llyfr Beibl Ddysgu gan ddefnyddio pwnc sydd ar feddyliau pobl leol.
15 mun: Pwysigrwydd Fod yn Brydlon. Trafodaeth. (1) Sut mae Jehofah yn gosod esiampl dda o fod yn brydlon? (Hab. 2:3) (2) Sut mae bod ar amser ar gyfer y cyfarfodydd a’r weinidogaeth yn dangos parch tuag at Jehofah a charedigrwydd at eraill? (3) Petawn ni’n hwyr yn cyrraedd y cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth, pa effaith bydden ni’n ei chael ar y brawd sy’n arwain y cyfarfod ac ar weddill y grŵp? (4) Os ydyn ni wedi trefnu amser penodol i ymweld â rhywun sydd â diddordeb, neu sy’n astudio gyda ni, pam mae’n bwysig inni fod yn brydlon? (Math. 5:37) (5) Pa awgrymiadau ymarferol fydd yn ein helpu ni i fod yn brydlon yn y weinidogaeth ac i gyrraedd y cyfarfodydd ar amser?
Cân 26 a Gweddi