Beth Wnewch Chi yn Ystod y Gwyliau?
Oherwydd bod llawer o bobl gartref ar wyliau banc, maen nhw’n gyfleoedd inni wneud mwy yn y weinidogaeth. Mae’r cynulleidfaoedd yn cael eu hannog i wneud trefniadau arbennig er mwyn tystiolaethu yn ystod y gwyliau. Os yw llawer o bobl yn y diriogaeth yn cysgu’n hwyrach na’r arfer, byddai’n gariadus inni aildrefnu cyfarfod y weinidogaeth. Gall y Cyfarfod Gwasanaeth gynnwys cyhoeddiad ynglŷn â threfniadau arbennig y gynulleidfa i dystiolaethu yn ystod y gwyliau, gan annog pawb sy’n gallu i gymryd rhan. Wrth gwrs, mae gwyliau yn gyfle inni ymlacio a gofalu am bethau personol. Ond, beth am neilltuo ychydig o amser ar gyfer y weinidogaeth? Yna byddwch yn cael eich adfywio drwy roi Jehofah yn gyntaf.—Math. 11:29, 30.