Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Ymateb i Ymdrechion i Ddiweddu’r Sgwrs
Pam Mae’n Bwysig: Dychmygwch eich bod chi’n gwybod bod trychineb naturiol ar fin digwydd. Byddai pobl yn marw oni bai eu bod nhw’n ffoi i rywle diogel. Felly, rydych yn ceisio rhybuddio’ch cymydog, ond mae’n torri ar draws gan ddweud ei fod yn brysur. Yn sicr, ni fyddech chi’n rhoi’r gorau i’w rybuddio mor gyflym â hynny! Mae llawer yn ein tiriogaeth yn ein gwrthod, heb iddyn nhw sylweddoli fod gennyn ni neges a ellir eu hachub. Wrth inni alw, efallai bydd pethau eraill ar eu meddyliau. (Math. 24:37-39) Efallai bod anwireddau wedi dylanwadu ar beth maen nhw’n ei feddwl ohonom. (Math. 11:18, 19) Efallai bydden nhw’n ein taflu ni i’r un fasged â chrefyddau sy’n dwyn ffrwyth drwg. (2 Pedr 2:1, 2) Os nad oes gan y deiliad ddiddordeb ar y cychwyn, ni ddylen ni roi’r ffidil yn y to yn rhy gyflym.
Sut i Fynd Ati:
• Cyn ichi bregethu o dŷ i dŷ, cymerwch funud neu ddau i feddwl am bethau mae pobl yn eu dweud i ddod â sgyrsiau i ben, a sut y gallwch chi ymateb.
• Os yw’r deiliad yn codi gwrthwynebiad, ceisiwch barhau gyda’r sgwrs mewn ffordd garedig. Efallai gallwch wneud hyn drwy ei ganmol. Er enghraifft, petai’n dweud bod ganddo grefydd yn barod, gallwch ddweud, “Roeddwn yn gobeithio cyfarfod rhywun fel chi sydd gyda diddordeb mewn pethau ysbrydol.” Weithiau bydd cydnabod teimladau ac amgylchiadau’r deiliad yn gwneud hi’n bosibl ichi barhau i roi tystiolaeth. Er enghraifft, petai’n dweud ei fod yn brysur, gallwch ddweud: “Dw i’n gweld. Ond cyn imi adael, hoffwn roi hwn ichi.” Neu petai’n dweud nad oes ganddo ddiddordeb, gallwch ddweud, “Ydy hynny’n golygu nad oes gennych ddiddordeb yn y Beibl, neu mewn crefydd yn gyffredinol?”
• Byddwch yn ddoeth. Cofiwch, nid yw Jehofah yn gorfodi pobl i wrando. (Deut. 30:19) Mae pawb yn gyfrifol amdanyn nhw eu hunain o flaen Jehofah. (Gal. 6:5) Petai’r deiliad yn benderfynol, byddai’n well inni adael. Drwy barchu ei deimladau, gallwn adael y ffordd yn glir i eraill siarad ag ef yn y dyfodol.—1 Pedr 3:15.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
• Ar ôl gadael rhywun a oedd yn ceisio dod â’r sgwrs i ben, trafodwch gyda’ch partner sut gallwch chi ymateb yn well y tro nesaf.