Helpu Pobl i Resymu
1. Yn y weinidogaeth, pa ddull sydd orau?
1 Yn y weinidogaeth, pa ddull sydd fwyaf effeithiol—un sy’n ddogmatig neu un sy’n helpu pobl i resymu a dod i’r casgliad cywir? Yn Thesalonica, fe wnaeth yr apostol Paul resymu â’r Iddewon, ac o ganlyniad “cafodd rhai ohonynt eu hargyhoeddi,” a dod yn Gristnogion. (Act. 17:2-4) Beth mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn rhesymu ag eraill?
2. Sut gallwn ni efelychu esiampl Paul wrth inni bregethu’r newyddion da?
2 Ystyriwch Deimladau a Chefndir yr Unigolyn: Mae rhesymu ag eraill yn golygu ystyried teimladau’r rhai sy’n byw yn y diriogaeth. Wrth annerch y Groegiaid yn yr Areopagus, dechreuodd Paul drwy sôn am bethau roedden nhw eisoes yn gwybod amdanyn nhw ac yn eu derbyn. (Act. 17:22-31) Felly, wrth baratoi eich cyflwyniadau, ystyriwch y credoau a’r rhagfarnau sy’n gyffredin ymysg y bobl yn eich tiriogaeth. (1 Cor. 9:19-22) Os yw’r deiliad yn anghytuno, ceisiwch ddod o hyd i dir cyffredin, ac adeiladwch eich sgwrs ar hwnnw.
3. Sut gallwn ni resymu ag eraill yn fwy effeithiol drwy ddefnyddio cwestiynau yn fedrus?
3 Defnyddiwch Gwestiynau’n Fedrus: Allwn ni ddim helpu rhywun i gyrraedd pen ei daith oni bai ein bod ni’n gwybod o le mae’n cychwyn. Yn yr un modd, allwn ni ddim helpu rhywun i ddod i’r casgliad cywir oni bai ein bod ni’n gwybod beth yw ei farn bresennol. Cyn rhesymu â’i wrandawyr, roedd Iesu’n aml yn gofyn cwestiynau er mwyn gwybod beth roedden nhw’n ei feddwl. Er enghraifft, gofynnodd dyn i Iesu: “Beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?” Cyn iddo ateb, fe ofynnodd Iesu i’r dyn am ei farn ef. (Luc 10:25-28) Dro arall, pan atebodd Pedr yn anghywir, defnyddiodd Iesu gwestiynau treiddgar i gywiro ei ffordd o feddwl. (Math. 17:24-26) Felly, os yw’r deiliad yn gofyn cwestiwn neu’n mynegi barn anghywir, fe allwn ni ddefnyddio cwestiynau i’w helpu i resymu ar y pwnc.
4. Pam dylen ni geisio helpu pobl i resymu?
4 Wrth inni helpu pobl i resymu, rydyn ni’n efelychu’r Athro Mawr, Iesu, ac yn dilyn esiampl efengylwyr medrus y ganrif gyntaf. Rydyn ni’n rhoi urddas i’r unigolyn ac yn dangos parch tuag ato. (1 Ped. 3:15) O ganlyniad, efallai y bydd y deiliad yn fwy parod i ganiatáu inni fynd yn ôl.