Gwnewch Ddefnydd Da o Hen Gylchgronau
Does dim lles o gadw cylchgronau ar y silff neu o luchio nhw i ffwrdd, felly dylen ni geisio eu defnyddio nhw. Gall un cylchgrawn ddeffro diddordeb rhywun, a’i ysgogi i ddysgu mwy am y gwirionedd ac i alw ar enw Jehofah. (Rhuf. 10:13, 14) Isod fe welwch chi awgrymiadau ar sut i ddefnyddio hen gylchgronau mewn modd effeithiol.
• Wrth dystiolaethu mewn ardaloedd nad ydych yn eu gweithio’n aml, gallwch adael cylchgronau allan o’r golwg os nad oes rhywun cartref.
• Wrth dystiolaethu’n gyhoeddus, gallwch gynnig y cylchgronau i bobl sy’n aros yn llefydd fel gorsafoedd bysiau neu drenau. Gallwch ofyn a ydyn nhw eisiau rhywbeth i’w ddarllen, a dangos rhai o’n hen gylchgronau er mwyn iddyn nhw ddewis un ohonyn nhw.
• Wrth ymweld â llefydd fel cartrefi gofal, londreti, meddygfeydd, neu lefydd tebyg yn nhiriogaeth eich cynulleidfa, gallwch adael hen gylchgronau yn y dderbynfa. Byddai’n dda i geisio caniatâd rhywun mewn awdurdod yn gyntaf, petai ef ar gael. Os oes digon o gylchgronau yna’n barod, peidiwch â gadael mwy ohonyn nhw.
• Wrth ichi baratoi ar gyfer galwadau, meddyliwch am ddiddordebau pob unigolyn rydych yn bwriadu ei weld. Oes ganddo deulu? A yw’n mwynhau garddio, neu deithio? Edrychwch yn yr hen gylchgronau am erthyglau sy’n debygol o ddeffro ei ddiddordeb, a dangoswch yr erthygl iddo ar eich galwad nesaf.
• Wrth ichi siarad â galwad nad ydych wedi ei weld am sbel, dangoswch iddo rai o’r hen gylchgronau y mae wedi eu methu ers y tro diwethaf.