Rhaglen Wythnos Ebrill 7
WYTHNOS YN CYCHWYN EBRILL 7
Cân 15 a Gweddi
□ Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa:
jl gwersi 23-25 (30 mun.)
□ Ysgol y Weinidogaeth:
Darlleniad o’r Beibl: Exodus 7-10 (10 mun.)
Rhif 1: Exodus 9:20-35 (hyd at 4 mun.)
Rhif 2: Ai Bwriad Duw Oedd Hyn?—bh tt. 3-7 (5 mun.)
Rhif 3: Abishai—Bod yn Ffyddlon ac yn Barod i Helpu Eich Brodyr—it-1-E t. 26 (5 mun.)
□ Cyfarfod Gwasanaeth:
10 mun: Cynigiwch y Cylchgronau ym Mis Ebrill. Trafodaeth. Cychwynnwch gyda dangosiadau o sut i gynnig y cylchgronau drwy ddefnyddio’r ddau gyflwyniad enghreifftiol ar y dudalen hon. Yna, trafodwch yn fanwl y cyflwyniadau enghreifftiol o’r dechrau i’r diwedd. Diweddwch drwy annog pawb i ddod yn gyfarwydd â’r cylchgronau ac i fod yn selog wrth eu dosbarthu.
10 mun: Peidiwch ag Anghofio Lletygarwch. (Heb. 13:1, 2) Anerchiad gan henuriad. Eglurwch y trefniadau lleol ar gyfer y Goffadwriaeth. Awgrymwch sut y gallwn ddangos lletygarwch i ymwelwyr a chyhoeddwyr anweithredol sy’n dod i’r Goffadwriaeth. Trefnwch ddau ddangosiad byr, un sy’n dangos cyhoeddwr yn croesawu ymwelwr i’r Goffadwriaeth, a’r ail yn dangos y cyhoeddwr, ar ôl y cyfarfod, yn gwneud trefniadau i weld y person eto.
10 mun: Sut Gwnaethon Ni? Trafodaeth. Gwahoddwch gyhoeddwyr i roi adborth ar sut cawson nhw les o roi awgrymiadau o’r erthygl “Hogi ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Ymateb i Ymdrechion i Ddiweddu’r Sgwrs” ar waith. Gofynnwch i’r gynulleidfa adrodd unrhyw brofiadau da.
Cân 20 a Gweddi