Astudio’r Beibl ag Eraill yn Effeithiol
1. Pa gyfrifoldeb sydd gan bob cyhoeddwr?
1 Ni all neb wasanaethu Jehofa heb i Dduw “ei dynnu.” (Ioan 6:44) Ond wrth ddysgu eraill, dylai cyhoeddwyr wneud eu rhan nhw i helpu pobl i agosáu at eu Tad nefol. (Iago 4:8) Pwysig felly yw paratoi. Dydy darllen pob paragraff a gofyn y cwestiynau printiedig ddim yn ddigon i helpu myfyrwyr i ddeall y neges ac i dyfu’n ysbrydol.
2. Sut gallwn ni ddysgu yn effeithiol?
2 Er mwyn bod yn effeithiol wrth ddysgu eraill, mae angen i gyhoeddwyr helpu eu myfyrwyr i (1) ddeall yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddysgu, (2) derbyn yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddysgu, a (3) rhoi ar waith yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddysgu. (Ioan 3:16; 17:3; Iago 2:26) Gall hyn gymryd amser. Ond mae pob cam yn dod â’r unigolyn yn agosach at Jehofa ac yn nes at amser ei ymgysegru.
3. Pam bydd athrawon effeithiol yn gofyn am farn eu myfyrwyr?
3 Sut Mae’r Myfyriwr yn Teimlo? Er mwyn gweld a yw’r myfyriwr yn deall ac yn derbyn yr hyn y mae’n ei ddysgu, peidiwch â siarad gormod gan annog y myfyriwr i fynegi ei deimladau. (Iago 1:19) Wrth drafod pwnc, ydy’r myfyriwr yn deall rhesymeg y Beibl? A yw’n gallu esbonio’r pwnc yn ei eiriau ei hun? Sut mae’n teimlo am yr hyn a ddysgwyd? A yw’n credu bod dysgeidiaeth y Beibl yn rhesymol? (1 Thes. 2:13) A yw’n deall y dylai’r hyn y mae’n ei ddysgu ddylanwadu ar ei fywyd? (Col. 3:10) I gael atebion i gwestiynau o’r fath, gofynnwch am ei farn a gwrando arni.—Math. 16:13-16.
4. Beth dylwn ni ei wneud petai’r myfyriwr yn cael trafferth gyda rhywbeth y mae’n ei ddysgu o’r Beibl?
4 Ar y cyfan, mae arferion a ffyrdd o feddwl pobl wedi eu gwreiddio’n ddwfn ynddyn nhw, ac felly, mae’n cymryd amser i’w diwreiddio. (2 Cor. 10:5) Beth os nad yw ein myfyriwr yn derbyn yr hyn y mae’n ei ddysgu nac yn ei roi ar waith? Mae angen inni fod yn amyneddgar a rhoi cyfle i Air Duw a’i ysbryd glân weithio ar galon ein myfyriwr. (1 Cor. 3:6, 7; Heb. 4:12) Os yw’r myfyriwr yn cael trafferth deall y pwynt a’i gymhwyso, yn hytrach na rhoi pwysau arno, gwell fyddai symud ymlaen at bwnc arall. Wrth inni ddysgu’r Beibl iddo yn amyneddgar ac yn gariadus, efallai, yn y pen draw, y byddai’n cael ei ysgogi i wneud newidiadau.