Rhaglen Wythnos Rhagfyr 15
WYTHNOS YN CYCHWYN RHAGFYR 15
Cân 111 a Gweddi
Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa:
fg gwers 6 ¶1-5 (30 mun.)
Ysgol y Weinidogaeth:
Darlleniad o’r Beibl: Josua 6-8 (10 mun.)
Rhif 1: Josua 8:18-29 (hyd at 4 mun.)
Rhif 2: Pan Fo Un o’n Hanwyliaid yn Marw—bh pen. 7 ¶1-6 (5 mun.)
Rhif 3: Gwrthwynebydd—Y Gwrthwynebydd Gwaethaf Yw Satan y Diafol—it-1-E t. 54 (5 mun.)
Cyfarfod Gwasanaeth:
THEMA’R MIS: Rhannwch “bethau da” o’ch trysor da sydd yn eich gofal.—Math. 12:35a.
15 mun: “Astudio’r Beibl ag Eraill yn Effeithiol.” Cwestiynau ac atebion. Ar ôl trafod paragraff 3, mae angen dangosiad dwy-ran sy’n dangos cyhoeddwr a myfyriwr yn trafod paragraff 8 ym mhennod 15 o’r llyfr Beibl Ddysgu. Yn y dangosiad cyntaf, mae’r cyhoeddwr yn siarad gormod. Yn yr ail, mae’r cyhoeddwr yn gofyn am farn y myfyriwr er mwyn deall yr hyn y mae’n ei feddwl.
15 mun: Adnodd i’ch Helpu i Baratoi ar Gyfer Astudiaethau Beiblaidd. Trafodaeth. Tynnwch sylw’r gynulleidfa at y rhan “What Does the Bible Teach?” ar ein gwefan (Cliciwch ar BIBLE TEACHINGS > TEENAGERS.) Trafodwch y ffordd y mae’r wybodaeth yma yn ein helpu ni i astudio gyda’r rhai ifanc yn ogystal â’r rhai hŷn yn effeithiol. Sut gall y cwestiynau yn y gweithgareddau ein helpu i gyffwrdd â chalonnau ein myfyrwyr? Trefnwch ymson sy’n dangos cyhoeddwr yn defnyddio un o’r gweithgareddau i’w helpu i feddwl am anghenion ei fyfyriwr, ac i baratoi cwestiynau da. Wrth gloi, anogwch y gynulleidfa i fod yn athrawon gwell drwy gyffwrdd â chalonnau eu myfyrwyr a defnyddio’r pethau da sydd ar gael inni.—Diar. 20:5.
Cân 99 a Gweddi