LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 12/14 tt. 3-5
  • Ysgol y Weinidogaeth 2015—Gwella Ein Sgiliau Dysgu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ysgol y Weinidogaeth 2015—Gwella Ein Sgiliau Dysgu
  • Ein Gweinidogaeth—2014
  • Erthyglau Tebyg
  • Cyfarwyddiadau ar Gyfer Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth
    Cyfarwyddiadau ar Gyfer Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth
  • Helpa Dy Fyfyrwyr i Gael eu Bedyddio
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Dau
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
Ein Gweinidogaeth—2014
km 12/14 tt. 3-5

Ysgol y Weinidogaeth 2015—Gwella Ein Sgiliau Dysgu

1 Ysgrifennodd y salmydd Dafydd: “Bydded geiriau fy ngenau’n dderbyniol gennyt, a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy i ti, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m prynwr.” (Salm 19:14) Rydyn ni hefyd eisiau i’n geiriau fod yn bleserus i Jehofa oherwydd mae’r fraint o siarad yn y weinidogaeth ac yn y gynulleidfa yn agos i’n calonnau. Ysgol y Weinidogaeth yw un ffordd y mae Jehofa yn ein hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth. Mae’r hyfforddiant hwn yn digwydd mewn mwy na 111,000 o gynulleidfaoedd ar draws y byd. Mae’r ysgol wedi helpu brodyr a chwiorydd o wahanol gefndiroedd i bregethu’r newyddion da â hyder, perswâd, a doethineb.—Act. 19:8; Col. 4:6.

2 Bydd rhaglen yr ysgol ar gyfer 2015 yn cynnwys pynciau a drafodir yn Cyflwyniad i Air Duw a Testunau Trafod o’r Beibl, ynghyd â gwybodaeth o Insight on the Scriptures, Cyfrol 1. Ar ben hynny, mae’r amser a bennwyd ar gyfer uchafbwyntiau o’r Beibl ac Aseiniad Rhif 1 wedi newid. Ceir mwy o wybodaeth isod ynglŷn â’r newidiadau a’r cyfarwyddiadau newydd.

3 Uchafbwyntiau o’r Beibl: Bydd y brawd sy’n cael yr aseiniad hwn yn cael dau funud i drafod un pwynt diddorol ac ymarferol o ddarlleniad wythnosol y Beibl. Bydd angen paratoi’n dda er mwyn rhannu rhywbeth gwerthfawr â’r gynulleidfa o fewn yr amser a bennwyd. Ar ôl hynny, bydd y gynulleidfa yn cael yr amser arferol, sef chwe munud, i roi atebion yn para 30 eiliad neu lai ar rywbeth o ddiddordeb iddyn nhw yn narlleniad wythnosol y Beibl. Mae angen inni baratoi a bod yn hunan-ddisgybledig i roi ateb gwerth chweil o fewn 30 eiliad, ac mae hynny’n hyfforddiant da inni. Yna, mae’n rhoi mwy o amser i bobl eraill sôn am yr hyn a ddysgon nhw o’u hymchwil.

4 Aseiniad Rhif 1: Bydd yr amser a bennwyd ar gyfer darlleniad y Beibl yn cael ei gwtogi i dri munud neu lai a bydd llai i’w ddarllen. Gan roi sylw i ynganu’r geiriau’n gywir, dylai’r rhai sy’n cael eu haseinio ymarfer sawl gwaith drwy ddarllen yn uchel. Hefyd, dylai’r darlleniad lifo’n naturiol i sicrhau bod yr ystyr yn eglur. Mae’n bwysig i bob un o Dystion Jehofa ddysgu sut i ddarllen yn dda, gan fod hyn yn rhan allweddol o’n haddoliad. Rydyn ni’n hapus bod cymaint o’n plant yn gallu darllen yn dda. Mae rhieni’n haeddu canmoliaeth am eu hymdrechion i helpu eu plant i wella eu sgiliau darllen!

5 Aseiniad Rhif 2: Bydd hwn yn gyflwyniad pum munud gan chwaer. Dylid defnyddio’r thema aseiniedig. Pan fydd yr aseiniad yn seiliedig ar wybodaeth o Cyflwyniad i Air Duw a Testunau Trafod o’r Beibl, dylid dewis gosodiad realistig yn y weinidogaeth, ac un sy’n ddefnyddiol yn yr ardal leol. Pan fydd yr aseiniad yn seiliedig ar gymeriad o’r Beibl yn Insight on the Scriptures, Cyfrol 1, dylai’r myfyriwr astudio’r wybodaeth o dan enw cymeriad y Beibl, dewis yr adnodau mwyaf addas i’w defnyddio, ac egluro’r hyn sydd i’w ddysgu oddi wrth esiampl y cymeriad. Gellir defnyddio adnodau perthnasol eraill sy’n cyd-fynd â’r thema. Bydd arolygwr yr ysgol yn aseinio un cynorthwyydd.

6 Aseiniad Rhif 3: Bydd hwn yn gyflwyniad pum munud gan frawd neu chwaer. Pan fydd chwaer yn cyflwyno’r aseiniad, dylid dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer Aseiniad Rhif 2. Pan fydd brawd yn cyflwyno aseiniad sy’n seiliedig ar y llyfr Insight, dylid ei roi ar ffurf anerchiad gan gadw’r gynulleidfa mewn cof. Dylai’r myfyriwr ddatblygu’r thema aseiniedig, dewis yr adnodau mwyaf addas i’w defnyddio, ac egluro’r hyn sydd i’w ddysgu oddi wrth esiampl y cymeriad.

7 Nodwedd Newydd ar Aseiniad Rhif 3 ar Gyfer Brodyr: Pan fydd yr aseiniad yn seiliedig ar Cyflwyniad i Air Duw a Testunau Trafod o’r Beibl, dylid ei gyflwyno ar ffurf addoliad teuluol neu i ddangos gwahanol elfennau o’r weinidogaeth ar waith. Fel arfer, bydd arolygwr yr ysgol yn aseinio’r cynorthwyydd a’r gosodiad. Dylai’r cynorthwyydd fod yn aelod o deulu’r myfyriwr, neu’n frawd yn y gynulleidfa. Gellir cynnwys adnodau ychwanegol sy’n pwysleisio egwyddorion y Beibl ac sy’n cyd-fynd â’r thema. O bryd i’w gilydd, gall henuriad gael ei aseinio i wneud y rhan hon. Gall henuriaid ddewis eu cynorthwyydd a’u gosodiad. Heb os, byddai’n galonogol i’r gynulleidfa weld sgiliau dysgu’r henuriaid.

Gwnewch gynnydd drwy dderbyn cyngor a’i roi ar waith

8 Cyngor: Ar ôl pob aseiniad, bydd gan arolygwr yr ysgol ddau funud i roi canmoliaeth, ynghyd â chyngor adeiladol o’r llyfr Benefit From Theocratic Ministry School Education. Pan fydd arolygwr yr ysgol yn cyflwyno’r myfyriwr, ni fydd yn cyhoeddi’r pwynt penodol y mae’r myfyriwr yn gweithio arno. Ar ôl y cyflwyniad, dylai’r arolygwr roi canmoliaeth onest i’r myfyriwr, a chyhoeddi’r pwynt penodol roedd y myfyriwr yn gweithio arno. Dylai fod yn sbesiffig wrth ddweud sut roedd y myfyriwr wedi gwneud yn dda ar y pwynt hwnnw, neu egluro mewn ffordd garedig pam y bydd angen i’r myfyriwr roi mwy o sylw i’r pwynt.

9 Gellir dod o hyd i’r ffurflen gyngor yn llyfr Ministry School y myfyriwr, tudalennau 79 i 81. Ar ôl yr aseiniad, bydd arolygwr yr ysgol yn gwneud nodiadau yn llyfr y myfyriwr ac yn gofyn iddo a yw wedi gwneud yr ymarfer perthnasol yn y llyfr. Caiff yr arolygwr roi mwy o ganmoliaeth ac awgrymiadau defnyddiol ar ôl y cyfarfod neu rywdro arall. Dylid ystyried y sylw personol y mae pob myfyriwr yn ei dderbyn fel cyfle iddo ddatblygu’n ysbrydol.—1 Tim. 4:15.

10 Os yw myfyriwr yn mynd dros amser, dylai’r arolygwr neu’r cynorthwyydd fod yn barod i roi gwybod i’r myfyriwr mewn ffordd garedig, efallai drwy ganu cloch neu daro ar rywbeth. Dylai’r myfyriwr gydnabod hyn drwy orffen ei frawddeg a gadael y llwyfan.—Gweler y llyfr Ministry School, t. 282, par. 4.

11 Rydyn ni’n annog pawb sy’n cwrdd â’r gofynion i gofrestru yn Ysgol y Weinidogaeth. (Gweler y llyfr Ministry School, t. 282, par. 6.) Mae’r addysg hon wedi galluogi pobl Jehofa i bregethu a dysgu eraill am newyddion da’r Deyrnas gydag argyhoeddiad, urddas, a chariad. Mae Jehofa wrth ei fodd yn derbyn gogoniant gan bawb sy’n elwa ar yr addysg ddwyfol hon!—Salm 148:12, 13; Esei. 50:4.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu