Uchafbwyntiau o’r Maes
Cafodd Prydain uchafswm newydd o arloeswyr ym mis Hydref, sef 12,972. Cafodd llawer iawn o gylchgronau eu dosbarthu ym Mhrydain ac Iwerddon oherwydd y gwahanol fathau o dystiolaethu cyhoeddus sy’n mynd ymlaen. Oherwydd hyn, mae neges y Beibl wedi cyrraedd mwy o bobl nag erioed. Wedi dweud hynny, mae’r Corff Llywodraethol yn ein hatgoffa o’n prif nod, sef cychwyn astudiaethau Beiblaidd a helpu unigolion sydd â chalonnau da i ddod yn ddisgyblion.—Act. 13:48; 1 Tim. 2:4.