Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol
Annwyl Frodyr a Chwiorydd:
“Yr ydym yn diolch i Dduw bob amser amdanoch chwi oll, gan eich galw i gof yn ein gweddïau, a chofio’n ddi-baid gerbron ein Duw a’n Tad am weithgarwch eich ffydd, a llafur eich cariad, a’r dyfalbarhad sy’n tarddu o’ch gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist.” (1 Thes. 1:2, 3) Mae’r geiriau braf hyn yn disgrifio’n berffaith sut rydyn ni’n teimlo amdanoch chi! Rydyn ni’n diolch i Jehofa amdanoch chi a’ch holl waith caled. Pam felly?
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydych wedi bod yn brysur yn gweithio’n galed iawn dros y Deyrnas. Mae llawer ohonoch wedi ymdrechu i ehangu eich gweinidogaeth. Mae rhai wedi symud i ardaloedd neu i wledydd lle mae mwy o angen am gyhoeddwyr. Mae eraill wedi ehangu eu gweinidogaeth drwy gymryd rhan mewn tystiolaethu cyhoeddus. Cafodd llawer eu hysgogi i arloesi’n gynorthwyol yn ystod tymor y Goffadwriaeth, yn ystod ymweliad arolygwr y gylchdaith, ac yn ystod yr ymgyrch arbennig ym mis Awst 2014. Er bod eich amgylchiadau’n amrywio, rydyn ni’n gwybod eich bod chi’n gwneud eich gorau glas i wasanaethu Jehofa, ac rydyn ni’n eich canmol chi. (Col. 3:23, 24) Diolchwn i Jehofa am ‘weithgarwch eich ffydd’!
Gwerthfawrogwn hefyd ‘lafur eich cariad’ yn y gwahanol brosiectau adeiladu ar draws y byd. Mae gwir angen am fwy o adeiladau, gan fod y nifer o Dystion Jehofa yn cynyddu. (Esei. 60:22) Meddyliwch, yr uchafswm o gyhoeddwyr eleni oedd 8,201,545, ac ar gyfartaledd roedd 9,499,933 o bobl yn astudio’r Beibl bob mis. O ganlyniad i’r tyfiant, mae angen i lawer o’r canghennau gael eu hadnewyddu neu eu datblygu. Wrth gwrs, mae hyn yn golygu bod mwy o angen am Neuaddau’r Deyrnas! Hefyd, mae angen am Swyddfeydd Cyfieithu mewn llawer o wledydd fel bod y cyfieithwyr yn gallu byw a gweithio yn yr ardal lle mae eu hiaith nhw yn cael ei siarad.
Mae’n rhesymol felly inni ofyn i ni’n hunain, ‘Beth galla’ i ei wneud i gynorthwyo’r gwaith adeiladu?’ Efallai bydd rhai ohonon ni’n medru gwirfoddoli i helpu gyda’r gwaith. Mae’n bosibl nad oes gennyn ni sgiliau yn y maes adeiladu, ond mae gennyn ni i gyd y fraint o gyfrannu rhywbeth gwerthfawr at y prosiectau pwysig hyn. (Diar. 3:9, 10) Pan gafodd y tabernacl ei adeiladu, roedd yr Israeliaid wedi cyfrannu gormod, felly roedd rhaid gofyn iddyn nhw beidio â rhoi mwy. (Ex. 36:5-7) Yn sicr, mae esiamplau o’r fath yn cyffwrdd â’n calonnau ac yn ein hysgogi ni. Diolchwn i Jehofa hefyd am ‘lafur eich cariad’ yn y meysydd hyn o’ch gwasanaeth cysegredig!
Rydyn ni hefyd yn llawenhau wrth weld ein brodyr yn sefyll yn gadarn. Er enghraifft, meddyliwch am ein brodyr annwyl yn Ne Corea. Er 1950, mae brodyr ifanc yn y wlad honno wedi cael eu rhoi mewn carchar am wahanol gyfnodau o amser oherwydd eu safiad ynglŷn â niwtraliaeth. Mae cenhedloedd o’n brodyr wedi dioddef oherwydd hyn, ond maen nhw wedi sefyll yn gadarn. Mae eu dyfalbarhad yn cryfhau ein ffydd!
Yn Eritrea, mae tri o’n brodyr wedi cael eu carcharu am dros ugain mlynedd. Mae eraill, gan gynnwys chwiorydd a’u plant, hefyd wedi bod yn y carchar ond am gyfnodau llai. Mae llawer wedi bod yn gweithio’n galed i’w rhyddhau nhw, ond hyd yn hyn nid oes neb wedi llwyddo. Serch hynny, nid yw ein brodyr wedi cyfaddawdu. Maen nhw wedi aros yn ffyddlon er gwaethaf amgylchiadau difrifol. Rydyn ni’n cofio am ein brodyr a’n chwiorydd ffyddlon yn ein gweddïau.—Rhuf. 1:8, 9.
Wrth gwrs, nid yw’r mwyafrif ohonoch yn y carchar oherwydd eich ffydd. Ond, mae llawer ohonoch yn mynd yn hŷn, yn dioddef problemau iechyd, neu yn ei chael hi’n anodd oherwydd bod cymar neu aelod arall o’r teulu yn gwrthwynebu eich ffydd, neu efallai eich bod chi’n ymdopi â phroblemau personol a chithau yn unig sy’n gwybod amdanyn nhw. Er hynny, rydych chi’n parhau i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon! (Iago 1:12) Rydyn ni’n eich canmol chi. Mae eich dyfalbarhad yn rheswm arall inni ddiolch i Jehofa.
Yn bendant, mae eich ffyddlondeb, eich llafur cariadus, a’ch dyfalbarhad yn rhesymau ardderchog dros ‘ddiolch i Jehofa, oherwydd da yw.’ (Salm 106:1) Rydyn ni’n eich caru chi’n fawr iawn, ac yn gweddïo ar Jehofa iddo eich cynnal chi, i’ch cryfhau chi, ac i’ch bendithio chi er mwyn ichi ei wasanaethu am byth!
Eich brodyr,
Corff Llywodraethol Tystion Jehofa