Blwch Cwestiynau
◼ A ddylai cyhoeddwyr wneud defnydd eang o’r Rhyngrwyd i bregethu neu astudio gyda phobl ddieithr sy’n byw mewn gwledydd eraill?
Mae rhai cyhoeddwyr wedi defnyddio’r Rhyngrwyd i ddarganfod pobl sydd eisiau astudio’r Beibl mewn gwledydd lle mae’r gwaith yn gyfyngedig neu lle mae nifer y cyhoeddwyr yn fychan. Mae rhai cyhoeddwyr wedi cael canlyniadau da o wneud hynny. Ond, mae yna beryglon wrth gyfathrebu â phobl ddieithr drwy e-byst neu mewn ystafelloedd sgwrsio. (Gweler Our Kingdom Ministry Gorffennaf 2007, t. 3.) Y nod yw cyrraedd pobl sydd wir eisiau dysgu mwy am Deyrnas Dduw, ond digon hawdd yw i frawd neu chwaer ddod ar draws rhai sy’n gwmni drwg, gan gynnwys gwrthgilwyr. (1 Cor. 1:19-25; Col. 2:8) Hefyd, mewn gwledydd lle mae cyfyngiadau neu waharddiad ar ein gwaith, mae’n bosibl bod yr awdurdodau yn monitro’r cyfathrebu. Gall cyfathrebu fel hyn beryglu’r brodyr a’r chwiorydd lleol. Felly, ni ddylai cyhoeddwyr fynd ar y we i chwilio am bobl o wledydd eraill er mwyn rhannu’r newyddion da â nhw.
Oni bai i’r swyddfa gangen leol ddweud yn wahanol, os ydyn ni’n tystiolaethu’n anffurfiol i rywun dieithr sydd yn ein gwlad ni dros dro, ni ddylen ni geisio meithrin ei ddiddordeb ar ôl iddo fynd adref. Yn hytrach, dylen ni ddangos iddo sut i ddefnyddio jw.org i gael mwy o wybodaeth, i gysylltu â’i gangen leol, ac i roi ei fanylion cyswllt er mwyn i gyhoeddwyr lleol alw arno. Hefyd, gallwn ei annog i fynd i Neuadd y Deyrnas leol. Wrth gwrs, mewn rhai gwledydd nid oes Neuaddau’r Deyrnas. Mae’r swyddfa gangen sy’n gofalu am y gwaith pregethu yn y wlad lle mae’r person yn byw yn gyfarwydd â’r amgylchiadau unigryw, a nhw sydd yn y sefyllfa orau i roi cymorth ysbrydol i’r unigolyn.—Gweler Ein Gweinidogaeth Mehefin 2014, t. 7, ac Ein Gweinidogaeth Tachwedd 2011, t. 2.
Os yw rhywun rydyn ni’n ymweld ag ef nawr yn symud i wlad arall, neu os ydyn ni ar hyn o bryd yn astudio â rhywun sy’n byw mewn gwlad arall ac rydyn ni’n ei adnabod dros y Rhyngrwyd yn unig, mae angen dilyn y cyngor uchod. Ond cawn barhau i feithrin ei ddiddordeb nes bod cyhoeddwr o’i ardal leol yn cysylltu ag ef. Er hynny, os yw’r person yn byw mewn gwlad lle mae ein gwaith ni wedi ei wahardd, mae angen bod yn ofalus iawn wrth drafod pynciau o’r Beibl dros y ffôn, drwy lythyr, neu drwy unrhyw fodd electronig.—Math. 10:16.