Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth
Bydd y cwestiynau canlynol yn cael eu trafod yn Ysgol y Weinidogaeth yn ystod yr wythnos yn cychwyn 26 Hydref 2015.
Sut mae’r hanes yn 2 Brenhinoedd 13:18, 19 yn dangos y pwysigrwydd o fod yn selog ac o addoli Duw â’n holl galonnau? [7 Medi, w10-E 4/15 t. 26 par. 11]
Pwy oedd yn teyrnasu dros Israel pan oedd Jona yn broffwyd, a beth rydyn ni’n ei ddysgu am weinidogaeth Jona o’r hanes yn 2 Brenhinoedd 14:23-25? [7 Medi, w09-E 1/1 t. 25 par. 4]
Sut dangosodd Ahas nad oedd ef yn ymddiried yng ngair Duw drwy’r proffwyd Eseia, a pha gwestiwn gallwn ni ei ofyn i’n hunain wrth wneud penderfyniadau pwysig? (2 Bren. 16:7) [14 Medi, w13-E 11/15 t. 17 par. 5]
Pa dacteg mae gwrthwynebwyr Duw heddiw yn ei defnyddio fel y gwnaeth y prif swyddog, y Rabsace, a beth all ein helpu i wrthod eu rhesymeg? (2 Bren. 18:22, 25) [14 Medi, w10-E 7/15 t. 13 par. 3-4]
Sut gall esiampl ostyngedig Joseia ein helpu i elwa’n fwy ar ddarllen y Beibl a’i astudio? (2 Bren. 22:19, 20) [21 Medi, w00-E 3/1 t. 30 par. 2]
Sut mae archaeoleg wedi cadarnhau mai pobl go iawn oedd y brenhinoedd a enwir yn 2 Brenhinoedd 25:27-30? [28 Medi, w12-E 6/1 t. 5 par. 2-3]
Gofynnodd Jabes am ba dri pheth gan Jehofa, a beth mae hyn yn ein dysgu am weddïo? (1 Cron. 4:9, 10) [5 Hyd., w10-E 10/1 t. 23]
Sut gall canlyniad y rhyfel a soniwyd amdano yn 1 Cronicl 5:18-22 ein helpu i ddal ati i frwydro’n hyderus yn ein rhyfel ysbrydol? [12 Hyd., w05-E 10/1 t. 9 par. 7]
Pam roedd Dafydd yn gallu deall a pharchu’r egwyddor y tu ôl i gyfraith Jehofa ynglŷn â sancteiddrwydd gwaed, a beth dylai esiampl Dafydd ein hysgogi ni i’w wneud? (1 Cron. 11:17-19) [19 Hyd., w12-E 11/15 tt. 6-7 par. 12-14]
Beth methodd Dafydd ei wneud wrth iddo geisio dod ag arch y cyfamod i Jerwsalem? Pa wers bwysig rydyn ni’n ei dysgu o’r hanes hwn? (1 Cron. 15:13) [26 Hyd., w03-E 5/1 tt. 10-11 par. 11-13]