TRYSORAU O AIR DUW | ESTHER 6-10
Roedd Esther yn Anhunanol Wrth Weithredu er Lles Jehofa a’i Bobl
Safodd Esther yn ddewr ac yn anhunanol dros Jehofa a’i bobl
Roedd Esther a Mordecai yn ddiogel. Ond roedd gorchymyn Haman i ladd yr Iddewon ar ei ffordd i bob cornel o’r ymerodraeth
Unwaith eto, mentrodd Esther ei bywyd drwy fynd i weld y brenin heb wahoddiad. Wylodd dros ei phobl, a gofynnodd i’r brenin ddiddymu’r gorchymyn erchyll
Nid oedd modd diddymu deddfau a basiwyd yn enw’r brenin. Felly rhoddodd y brenin yr hawl i Esther a Mordecai greu deddf newydd
Rhoddodd Jehofa fuddugoliaeth i’w bobl
Cyhoeddwyd ail ddeddf, yn caniatáu i’r Iddewon amddiffyn eu hunain
Brysiodd negeseuwyr allan ar geffylau i bob rhan o’r ymerodraeth, a pharatôdd yr Iddewon ar gyfer brwydr
Gwelodd llawer fod bendith Duw ar yr Iddewon, a throi’n broselytiaid