TRYSORAU O AIR DUW | LUC 12-13
‘Dych Chi’n Fwy Gwerthfawr na Haid o Adar y To!’
Beth yw cyd-destun geiriau Iesu yn Luc 12:6, 7? Yn adnod 4, gwelwn fod Iesu wedi dweud wrth ei ddilynwyr i beidio ag ofni’r rhai a fyddai’n eu gwrthwynebu neu hyd yn oed eu lladd. Roedd Iesu’n paratoi ei ddisgyblion am y gwrthwynebiad y bydden nhw’n ei wynebu yn y dyfodol. Gwnaeth Iesu eu sicrhau bod Jehofa’n gwerthfawrogi bob un o’i weision ac na fyddai’n gadael i unrhyw beth eu niweidio’n barhaol.
Sut gallwn ni efelychu diddordeb Jehofa yn y rhai sy’n cael eu herlid?
Ble gallwn ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am Dystion Jehofa sydd wedi eu carcharu oherwydd eu ffydd?
Faint o frodyr a chwiorydd sydd yn y carchar?