EIN BYWYD CRISTNOGOL
“Dyma’r Ddaear yn . . . Llyncu yr Afon”
Ar wahanol adegau drwy hanes, mae awdurdodau seciwlar wedi helpu pobl Jehofa. (Esr 6:1-12; Est 8:10-13) Hyd yn oed yn yr oes fodern, mae’r “ddaear”—elfennau’r system sy’n fwy ffafriol—wedi llyncu “yr afon,” sef yr erledigaeth sydd wedi ei hachosi gan y “ddraig,” Satan y Diafol. (Dat 12:16) Weithiau, mae Jehofa, y “Duw sy’n achub,” yn defnyddio llywodraethwyr dynol i helpu ei bobl.—Sal 68:20; Dia 21:1.
Hyd yn oed os wyt ti wedi dy garcharu am dy ffydd, bydda’n sicr fod Jehofa yn gofalu amdanat ti! (Ge 39:21-23; Sal 105:17-20) Cofia, caiff dy ffyddlondeb ei wobrwyo ac mae’n codi calonnau dy frodyr drwy’r byd.—Php 1:12-14; Dat 2:10.
GWYLIA’R FIDEO KOREAN BROTHERS RELEASED FROM PRISON, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Pam cafodd miloedd o frodyr eu carcharu yn Ne Corea dros y blynyddoedd?
Pa ddyfarniadau yn y llys a adawodd i rai o’n brodyr gael eu rhyddhau yn fuan?
Sut gallwn ni helpu ein brodyr sydd wedi eu carcharu am eu ffydd mewn gwahanol wledydd?
Sut dylen ni ddefnyddio unrhyw ryddid sydd gennyn ni ar hyn o bryd?
Pwy sy’n gyfrifol am bob achos llys rydyn ni’n ei ennill?
Sut rydw i’n defnyddio fy rhyddid i?