EIN BYWYD CRISTNOGOL
Beth Wnei Di Pan Ddaw Blwyddyn o Sychder?
Mae angen inni roi ein ffydd yn Jehofa yn ogystal ag ymddiried ynddo. Er enghraifft, mae ffydd gref yn Jehofa yn ein helpu i ymddiried ynddo i ofalu amdanon ni a’n gwarchod. (Sal 23:1, 4; 78:22) Wrth inni agosáu at ddiwedd y system hon, gallwn ni ddisgwyl i Satan ymosod arnon ni’n fwy fyth. (Dat 12:12) Beth fydd yn ein helpu?
GWYLIA’R FIDEO WHAT WILL YOU DO IN THE YEAR OF DROUGHT?, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Sut rydyn ni’n debyg i’r goeden yn Jeremeia 17:8?
Beth yw un math o ‘wres’?
Sut mae hyn yn effeithio ar y ‘goeden,’ a pham?
Beth mae Satan eisiau ei ddinistrio?
Ym mha ffordd rydyn ni’n debyg i bobl sy’n hedfan yn aml?
Pam dylen ni barhau i ymddiried yn y gwas ffyddlon a chall, a pha brofion byddwn ni’n eu hwynebu?
Pam dylen ni barhau i ymddiried yn egwyddorion y Beibl er gwaethaf cael ein gwawdio gan y byd?