LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb20 Ebrill t. 7
  • Cael Gwared ar Dduwiau Dieithr

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cael Gwared ar Dduwiau Dieithr
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
  • Erthyglau Tebyg
  • Ai Hwyl Ddiniwed Yw’r Ocwlt?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Gad i Jehofa Dy Helpu i Wrthsefyll Ysbrydion Drwg
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
  • Addola Jehofa yn Unig
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
  • Dewis Adloniant Sy’n Plesio Jehofa
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Gweld Mwy
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
mwb20 Ebrill t. 7
Dyn yn taflu cadwyn sy’n cysylltiedig ag ysbrydegaeth i’r sbwriel.

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cael Gwared ar Dduwiau Dieithr

Roedd Jacob yn gwybod y dylai addoli Jehofa yn unig, er nad oedd Jehofa wedi rhoi’r gorchymyn yn erbyn eilunaddoliaeth eto. (Ex 20:3-5) Felly, ar ôl i Jehofa ddweud wrtho am ddychwelyd i Bethel, rhoddodd Jacob gyfarwyddyd i bawb oedd gydag ef gael gwared ar eu heilunod. Claddodd Jacob yr eilunod, gan gynnwys clustlysau, a oedd efallai’n cael eu gwisgo fel swynbethau. (Ge 35:1-4) Roedd Jehofa bendant yn hapus â’r hyn a wnaeth Jacob.

Heddiw, sut gallwn ni sicrhau ein bod ni’n addoli Jehofa a neb arall? Mae’n bwysig iawn inni osgoi unrhyw beth sy’n gysylltiedig ag eilunaddoliaeth ac ysbrydegaeth. Byddai hynny’n gofyn inni gael gwared ar unrhyw beth sy’n ymwneud â’r ocwlt ac inni ystyried ein hadloniant yn ofalus. Er enghraifft, gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n mwynhau llyfrau neu ffilmiau sy’n cynnwys pethau fel fampirod, sombis, neu’r goruwchnaturiol? Ydy fy adloniant yn portreadu hud a lledrith neu felltithion fel hwyl ddiniwed?’ Dylen ni gadw draw oddi wrth bopeth mae Jehofa yn ei gasáu.—Sal 97:10.

GWYLIA’R FIDEO “OPPOSE THE DEVIL,” AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Babi yn gorwedd mewn gwely, yn gwisgo swynbeth ar ei arddwrn. Yn y cefndir mae’r mam, sy’n astudio’r Beibl, yn sgwrsio â’r cwpl sy’n astudio gyda hi.

    Pa broblem cododd ym mywyd Palesa pan oedd hi’n astudio’r Beibl?

  • Mae’r cwpl a’u myfyrwraig yn cwrdd â dau henuriad er mwyn derbyn cymorth.

    Pam byddai’n ddoeth i geisio help yr henuriaid pan fydd rhywun yn cael problemau ag ysbrydegaeth?

  • Y fenyw sy’n astudio’r Beibl yn rhoi swynbeth y babi yn y ffwrn i’w losgi.

    Gwrthwyneba’r Diafol, a chlosia at Dduw.—Iag 4:7, 8

    Er mwyn cael ein gwarchod gan Jehofa, pa bethau mae’n rhaid inni gael gwared arnyn nhw?

  • Beth gwnaeth Palesa benderfynu ei wneud?

  • Sut gelli di osgoi dylanwad y cythreuliaid yn dy ardal di?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu