LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb22 Ionawr t. 11
  • Bobl Ifanc—Cyfathrebwch yn Agored â’ch Rhieni

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Bobl Ifanc—Cyfathrebwch yn Agored â’ch Rhieni
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
  • Erthyglau Tebyg
  • Parchu Dy Dad a Dy Fam
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Gelli Di Gyfrannu at Lawenydd Dy Deulu
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Rieni—Helpwch Eich Plant i Garu Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Sut Gallwch Chi Gael Teulu Hapus?​—Rhan 2
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Gweld Mwy
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
mwb22 Ionawr t. 11

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Bobl Ifanc—Cyfathrebwch yn Agored â’ch Rhieni

Pam dylet ti geisio rhannu dy deimladau’n agored gyda dy rieni? (Dia 23:26) Achos mae Jehofa wedi rhoi’r cyfrifoldeb iddyn nhw ofalu amdanat ti a dy arwain di. (Sal 127:3, 4) Byddai’n anodd iddyn nhw dy helpu di petaset ti’n cuddio dy bryderon rhagddyn nhw. Hefyd, byddet ti’n colli allan ar ddysgu o’u holl brofiad bywyd. Ydy hi’n anghywir i gadw rhai teimladau i ti dy hun? Nid o reidrwydd—cyn belled nad wyt ti’n twyllo dy rieni.—Dia 3:32.

Sut gelli di siarad â dy rieni? Ceisia ddewis amser sy’n siwtio ti a nhw. Os ydy hynny’n rhy anodd, gallet ti ysgrifennu llythyr at un ohonyn nhw i rannu dy deimladau. Beth os ydyn nhw eisiau siarad am rywbeth byddai’n well gen ti beidio â’i drafod? Cofia eu bod nhw wir eisiau helpu. Mae dy rieni ar dy ochr, nid yn dy erbyn. Os wyt ti’n ymdrechu i gyfathrebu’n agored â dy rieni, byddi di ar dy ennill am weddill dy fywyd—dy fywyd tragwyddol!—Dia 4:10-12.

GWYLIA’R FIDEO FY MYWYD FEL PERSON IFANC—SUT GALLA I SIARAD Â FY RHIENI? AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Golygfa o’r fideo “Fy Mywyd Fel Person Ifanc—Sut Galla i Siarad â Fy Rhieni?” Merch yn ei harddegau yn gwisgo clustffonau ac yn defnyddio cyfrifiadur, mae hi’n anwybyddu ei mam sy’n ceisio siarad â hi.

    Beth sylweddolodd Esther a Partik amdanyn nhw eu hunain?

  • Golygfa o’r fideo “Fy Mywyd Fel Person Ifanc—Sut Galla i Siarad â Fy Rhieni?” Merch yn ei harddegau yn siarad â’i mam ac yn dangos rhywbeth iddi ar ei ffôn.

    Beth gelli di ei ddysgu o esiampl Iesu?

  • Golygfa o’r fideo “Fy Mywyd Fel Person Ifanc—Sut Galla i Siarad â Fy Rhieni?” Mam yn cymryd amser allan o wneud gwaith tŷ i chwarae gyda’i mab ifanc.

    Sut mae dy rieni wedi dangos eu bod nhw’n gofalu amdanat ti?

  • Golygfa o’r fideo “Fy Mywyd Fel Person Ifanc—Sut Galla i Siarad â Fy Rhieni?” Hyfforddwr pêl-fasged yn dangos strategaeth ar gyfer gêm drwy dynnu llun ar glipfwrdd.

    Mae dy rieni eisiau iti lwyddo

    Pa egwyddorion y Beibl all dy helpu di i siarad â dy rieni?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu