GORFFENNAF 14-20
DIARHEBION 22
Cân 79 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Egwyddorion Doeth ar Gyfer Magu Plant
(10 mun.)
Helpa dy blant i baratoi am anawsterau (Dia 22:3; w20.10 27 ¶7)
Dechreua eu hyfforddi nhw o’u genedigaeth (Dia 22:6; w19.12 26 ¶17-19)
Disgybla nhw mewn ffordd gariadus (Dia 22:15; w06-E 4/1 9 ¶4)
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Dia 22:29—Sut mae’r adnod hon yn berthnasol i’n gwaith yn y gynulleidfa, a pham mae’n fuddiol? (w21.08 22 ¶11)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Dia 22:1-19 (th gwers 10)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. (lmd gwers 5 pwynt 4)
5. Dechrau Sgwrs
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Dangosa i’r person sut i ddod o hyd i wybodaeth ar jw.org a all helpu rhieni. (lmd gwers 1 pwynt 4)
6. Anerchiad
(5 mun.) ijwyp erthygl 100—Thema: Torrais Un o Reolau’r Teulu—Beth Nawr? (th gwers 20)
Cân 134
7. Bydda’n Amyneddgar, ond Nid yn Llac
(15 mun.) Trafodaeth.
Mae magu plant yn gofyn am lawer o amynedd. Mae’n rhaid i rieni roi sylw i’w plant yn aml a threulio digon o amser â nhw. (De 6:6, 7) Er mwyn dod o hyd i beth sydd yng nghalonnau eu plant, mae’n rhaid i rieni ofyn cwestiynau iddyn nhw ac yna gwrando’n astud. (Dia 20:5) Efallai bydd rhaid i rieni ailadrodd eu cyfarwyddiadau sawl gwaith cyn i’w plant ddeall a gweithredu.
Ond dydy rhieni amyneddgar ddim yn caniatáu ymddygiad drwg. Mae Jehofa wedi rhoi’r awdurdod iddyn nhw osod rheolau i’w plant, a’u disgyblu os nad ydyn nhw’n ufuddhau.—Dia 6:20; 23:13.
Darllen Effesiaid 4:31. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Pam na ddylai rhieni ddisgyblu eu plant mewn dicter?
Darllen Galatiaid 6:7. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Pam mae’n bwysig i rieni ddysgu i’w plant fod ’na ganlyniadau i bopeth?
Dangosa’r FIDEO DRAMATEIDDIAD ‘Gydag Amynedd, Goddef Eich Gilydd Mewn Cariad’—Eich Plant. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Pa wersi gwnest ti eu dysgu o’r fideo?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 17 ¶13-19