LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 100
  • Torrais Un o Reolau’r Teulu—Beth Nawr?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Torrais Un o Reolau’r Teulu—Beth Nawr?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth i beidio â’i wneud
  • Ffordd well o ymateb
  • Pam Dylwn i Ymddiheuro?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 100
Rhieni’n dangos consýrn wrth siarad â’u merch ar ôl iddi gyrraedd adref yn hwyrach nag oedden nhw’n ei ddisgwyl.

CWESTIYNAU POBL IFANC

Torrais Un o Reolau’r Teulu—Beth Nawr?

Mae gan bron pob teulu reolau. Gall y rhain gynnwys pa amser mae’n rhaid iti ddod adref, faint o amser gelli di ei dreulio ar dy ddyfeisiau electronig, a sut i drin eraill yn gwrtais.

Beth os wyt ti’n torri un o’r rheolau? Gelli di ddim newid dy gamgymeriad. Ond gelli di wneud rhywbeth i stopio’r sefyllfa rhag gwaethygu. Bydd yr erthygl hon yn dangos sut gelli di wneud hynny.

  • Beth i beidio â’i wneud

  • Ffordd well o ymateb

  • Beth mae dy gyfoedion yn ei ddweud

Beth i beidio â’i wneud

  • Os dydy dy rieni ddim yn gwybod dy fod ti wedi torri rheol, efallai byddet ti’n teimlo fel cuddio unrhyw dystiolaeth.

  • Os dydyn nhw ddim yn gwybod dy fod ti wedi torri rheol, efallai cei di dy demtio i wneud esgusodion neu i roi’r bai ar rywun arall.

Dydy’r rhain ddim yn opsiynau da. Pam? Oherwydd dydy person aeddfed ddim yn cuddio’r hyn a ddigwyddodd neu’n gwneud esgusodion. Byddai gwneud hynny ond yn dangos i dy rieni nad wyt ti’n ddigon aeddfed.

“Nid dweud celwydd yw’r ateb. Mewn amser, bydd y gwir yn dod i’r amlwg, a bydd dy rieni yn dy ddisgyblu di’n fwy llym nag os oeddet ti wedi dweud y gwir yn y lle cyntaf.”—Diana.

Ffordd well o ymateb

  • Cyfaddef beth wnest ti. Mae’r Beibl yn dweud: “Fydd y sawl sy’n cuddio’i feiau ddim yn llwyddo.” (Diarhebion 28:13) Mae dy rieni yn gwybod na elli di fod yn berffaith, ond y cwestiwn ydy, A elli di fod yn onest?

    “Bydd dy rieni yn fwy parod i faddau iti os wyt ti’n dweud y gwir. Wrth wneud hynny, bydd dy rieni yn dy drystio di’n fwy.”—Olivia.

  • Ymddiheura. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’n rhaid i bob un ohonoch chi wisgo gostyngeiddrwydd amdanoch chi.” (1 Pedr 5:5) Mae’n cymryd gostyngeiddrwydd i ddweud “Dwi’n sori” a dweud hynny heb wneud esgusodion.

    “Pan mae pobl yn gwneud esgusodion drwy’r amser, fyddan nhw ddim yn teimlo mor euog am wneud rhywbeth o’i le. Yn y pen draw, fydd gwneud drygioni ddim yn pigo ar eu cydwybod bellach.”—Heather.

  • Derbynia’r canlyniadau. Mae’r Beibl yn dweud: “Gwrandwch ar beth dw i’n ddweud.” (Diarhebion 8:33) Paid â chwyno am unrhyw ddisgyblaeth, ond derbynia’r rheolau mae dy rieni yn eu gosod.

    “Os wyt ti’n cwyno am y gosb, bydd dy sefyllfa ond yn mynd yn waeth. Ffeindia ffordd o dderbyn y rheolau newydd, heb ganolbwyntio ar beth rwyt ti wedi ei golli.”—Jason.

  • Gweithia’n galed i ailadeiladu tryst. Mae’r Beibl yn dweud: “[Rhowch] heibio’r hen bersonoliaeth sy’n cydymffurfio â’ch hen ymddygiad” (Effesiaid 4:22) Dal ati i ymddwyn yn dda fel bod dy rieni yn gallu dy drystio di unwaith eto.

    “Os wyt ti’n gwneud penderfyniadau da yn gyson ac yn dangos i dy rieni na fyddi di’n gwneud yr un camgymeriad eto, yn y diwedd bydd eu tryst ynot ti yn cael ei adfer.”—Karen.

AWGRYMIAD: Gwna ymdrech i ddangos i dy rieni eu bod nhw’n gallu dy drystio di. Er enghraifft, gad i dy rieni wybod pan wyt ti ar dy ffordd adref hyd yn oed os na fyddi di’n hwyr. Bydd y neges yn glir: ‘Rydw i eisiau cael eich tryst unwaith eto.’

Barn dy gyfoedion

Darius.

“Mae cuddio’r gwir am beth wnest ti o dy rieni yr un fath â dweud celwydd. Yn y diwedd, byddan nhw’n darganfod beth ddigwyddodd a bydd y gosb yn waeth nag os oeddet ti wedi dweud y gwir yn y lle cyntaf.”—Darius.

Sierra.

“Mae rhoi’r bai ar eraill yn dangos nad ydyn ni’n ddigon aeddfed i gymryd y cyfrifoldeb am ein camgymeriadau. Gall ein rhieni golli eu tryst ynon ni os dydyn ni ddim yn ddigon cyfrifol i ddweud sori am beth ddigwyddodd.”—Sierra.

Adolygiad: Torrais un o reolau’r teulu—beth nawr?

  • Cyfaddef beth wnest ti. Mae dy rieni yn gwybod na elli di fod yn berffaith, ond y cwestiwn ydy, A elli di fod yn onest?

  • Ymddiheura. Dyweda “Dwi’n sori” yn ddiffuant, heb wneud esgusodion.

  • Derbynia’r canlyniadau. Derbynia unrhyw reolau mae dy rieni yn eu gosod.

  • Gweithia’n galed i ailadeiladu tryst. Dal ati i ymddwyn yn dda fel bod dy rieni yn gallu dy drystio di unwaith eto.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu