AWST 18-24
DIARHEBION 27
Cân 102 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Sut Mae Gwir Ffrindiau yn Ein Helpu Ni
(10 mun.)
Bydd ffrindiau da yn ddigon dewr i roi cyngor inni yn ôl yr angen (Dia 27:5, 6; w19.09 5 ¶12)
Efallai bydd gwir ffrind mewn sefyllfa well na’n teulu i’n helpu ni (Dia 27:10; it-2-E 491 ¶3)
Mae gwir ffrindiau yn ddylanwad da arnon ni (Dia 27:17; w23.09 9 ¶7)
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Dia 27:21—Sut mae canmoliaeth yn ein rhoi ni o dan brawf? (w06-E 9/15 19 ¶12)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Dia 27:1-17 (th gwers 5)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. Mae gan y person grefydd, ond nid yw’n Gristion. (lmd gwers 6 pwynt 5)
5. Parhau â’r Sgwrs
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Cyflwyna a thrafod fideo o’r Bocs Tŵls Dysgu. (lmd gwers 8 pwynt 3)
6. Anerchiad
(5 mun.) ijwyp-E erthygl 75—Thema: Beth Os Ydy Fy Ffrind yn Brifo Fy Nheimladau? (th gwers 14)
Cân 109
7. “Brawd Wedi’i Eni i Helpu Mewn Helbul”
(15 mun.) Trafodaeth.
Ymysg y frawdoliaeth fyd-eang mae Jehofa wedi ei ffurfio, gallwn ni gael hyd i ffrindiau sy’n ein caru ni. Er ein bod ni’n gyfeillgar â llawer yn y gynulleidfa, faint ohonyn nhw sy’n ffrindiau agos inni? Mae’r berthynas rhwng ffrindiau da wedi ei seilio ar ddealltwriaeth, tryst, cyfathrebu o’r galon, rhannu profiadau, a gweithredoedd anhunanol. Oherwydd hyn, mae’n cymryd amser ac ymdrech i wneud a chadw ffrindiau agos.
Darllen Diarhebion 17:17. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Pam mae’n bwysig inni wneud ffrindiau agos nawr, cyn i’r trychineb mawr ddechrau?
Darllen 2 Corinthiaid 6:12, 13. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Sut gall rhoi’r adnodau hyn ar waith ein helpu ni i wneud ffrindiau?
Dangosa’r FIDEO “Mae Amser Wedi ei Bennu i Bopeth”—Mae Gwneud Ffrindiau yn Cymryd Amser. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Beth gwnest ti ei ddysgu o’r fideo am fod yn ffrindiau ag eraill?
Gelli di gychwyn gwneud ffrindiau drwy wenu neu gyfarch y person yn gynnes, ac yna cryfhau’r berthynas drwy ddangos diddordeb personol. Mae’n cymryd amser i wneud hynny, felly bydda’n amyneddgar. O ganlyniad, gallwch chi fod yn ffrindiau am byth.
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 19 ¶6-13