LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb25 Medi tt. 4-5
  • Medi 15-21

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Medi 15-21
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2025
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2025
mwb25 Medi tt. 4-5

MEDI 15-21

DIARHEBION 31

Cân 135 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

Mam a’i merch yn sgwrsio’n braf wrth iddyn nhw eistedd ar soffa.

1. Gwersi o Gyngor Mam Gariadus

(10 mun.)

Dysga dy blant safbwynt Jehofa ar briodas a rhyw (Dia 31:​3, 10; w11-E 2/1 19 ¶7-8)

Dysga dy blant i gael yr un safbwynt â Jehofa ar alcohol (Dia 31:​4-6; ijwhf erthygl 4 ¶11-13)

Dysga dy blant i helpu pobl yn yr un ffordd â Jehofa (Dia 31:​8, 9; g17.6 9 ¶5)

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Dia 31:​10-31—Beth a wnaeth helpu’r Israeliaid i gofio adnodau o’r Ysgrythurau Hebraeg? (w92-E 11/1 11 ¶7-8)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Dia 31:​10-31 (th gwers 10)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Dechreua sgwrs ar ôl i rywun wneud neu ddweud rhywbeth caredig. (lmd gwers 5 pwynt 3)

5. Dechrau Sgwrs

(4 mun.) O DŶ I DŶ. Rhanna un o’r “Gwirioneddau Sy’n Bleser i’w Rhannu” yn atodiad A o’r llyfryn Caru Pobl. (lmd gwers 1 pwynt 4)

6. Parhau â’r Sgwrs

(5 mun.) O DŶ I DŶ. Gwahodda rywun a wnaeth dderbyn y Tŵr Gwylio Rhif 1 2025 i’r anerchiad arbennig. (lmd gwers 7 pwynt 4)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 121

7. Helpa dy Blant i Ddefnyddio Dyfeisiau Electronig yn Ddoeth

(8 mun.) Trafodaeth.

Wyt ti erioed wedi gwylio plentyn ifanc yn defnyddio apiau ar ffôn neu ar dabled? Maen nhw’n gwneud iddi edrych mor hawdd! Efallai does dim angen help arnyn nhw i ddysgu sut i ddefnyddio dyfais, ond mae angen help arnyn nhw i ddysgu sut i’w ddefnyddio’n ddoeth. Os wyt ti’n rhiant, sut gelli di hyfforddi dy blentyn i fod yn ddoeth wrth ddefnyddio dyfeisiau?

Golygfa o’r fideo “Defnyddia Dy Amser yn Ddoeth.” Tra bod Sara yn ymlacio ar y traeth, mae hi’n defnyddio ei thabled ac yn methu’n llwyr â gweld dolffin yn y dŵr yn chwarae â phêl.

Dangosa’r FIDEO Defnyddia Dy Amser yn Ddoeth. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Pam mae’n beth da inni osod cyfyngiadau wrth ddefnyddio dyfeisiau electronig?

  • Pa bethau eraill mae’n rhaid inni dreulio amser arnyn nhw?

Wrth osod rheolau ar gyfer dy deulu, dibynna ar egwyddorion Beiblaidd yn hytrach nag ar yr hyn mae rhieni eraill yn ei wneud. (Ga 6:5) Er enghraifft, gofynna i ti dy hun:

  • Ydy fy mhlentyn wedi dangos ei fod yn gallu gwneud penderfyniadau da? Ydy ef wedi dangos digon o hunanreolaeth i ddefnyddio fy nyfais, neu i gael dyfais ei hun?—1Co 9:25

  • I ba raddau dylwn i adael i fy mhlentyn ddefnyddio dyfais electronig ar ei ben ei hun? —Dia 18:1

  • Pa apiau a gwefannau byddwn i’n caniatáu i fy mhlentyn eu defnyddio neu beidio? —Eff 5:​3-5; Php 4:​8, 9

  • Faint o amser dylwn i adael i fy mhlentyn treulio ar ddyfais electronig fel bod ganddo ddigon o amser i wneud pethau pwysig a phethau mae’n ei fwynhau?—Pre 3:1

8. Anghenion Lleol

(7 mun.)

9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

(30 mun.) bt pen. 20 ¶13-20

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 73 a Gweddi

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu