MEDI 22-28
PREGETHWR 1-2
Cân 103 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Parhau i Hyfforddi’r Genhedlaeth Nesaf
(10 mun.)
[Dangosa’r FIDEO Cyflwyniad i Pregethwr.]
Mae gan bob cenhedlaeth y cyfrifoldeb o hyfforddi’r un nesaf (Pre 1:4; w17.01 27-28 ¶3-4)
Pan ydyn ni’n hyfforddi eraill ac yn rhoi gwaith iddyn nhw ei wneud, rydyn ni’n eu helpu nhw i brofi’r llawenydd sy’n dod o weithio’n galed yng ngwasanaeth Jehofa (Pre 2:24)
Paid â dal yn ôl rhag hyfforddi eraill oherwydd ofn y byddan nhw’n cymryd yr aseiniad rwyt ti’n ei fwynhau
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Pre 2:11—Beth gwnaeth Solomon ei ddysgu am weithio’n galed i gael llawer o bethau? (w18.12 18 ¶14)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Pre 1:1-18 (th gwers 11)
4. Dechrau Sgwrs
(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Dysga beth sydd o ddiddordeb i’r person. Trefna i gysylltu ag ef eto. (lmd gwers 3 pwynt 5)
5. Dechrau Sgwrs
(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. Rhanna un o’r “Gwirioneddau Sy’n Bleser i’w Rhannu” gan ddefnyddio’r dull yn atodiad A o’r llyfryn Caru Pobl. (lmd gwers 2 pwynt 3)
6. Parhau â’r Sgwrs
(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Ateba gwestiwn gwnaeth y person ei godi mewn sgwrs flaenorol. (lmd gwers 9 pwynt 5)
7. Gwneud Disgyblion
(5 mun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. Dangosa sut i gynnal astudiaeth Feiblaidd a gwna drefniadau ar gyfer yr astudiaeth nesaf. (lmd gwers 10 pwynt 3)
Cân 84
8. Tair Gwers Bwysig am Hyfforddi Eraill
(15 mun.) Trafodaeth.
Mae cariad yn ein cymell ni i hyfforddi eraill i gyflawni’r gwaith mae Jehofa wedi ei roi inni i’w wneud
Mae’r Beibl yn cynnwys llawer o esiamplau arbennig sy’n ein dysgu ni sut i hyfforddi eraill. Gallwn ni ddysgu cymaint o’r ffordd gwnaeth Samuel hyfforddi Saul, o’r ffordd gwnaeth Elias hyfforddi Eliseus, o’r ffordd gwnaeth Iesu hyfforddi ei ddisgyblion, ac o’r ffordd gwnaeth Paul hyfforddi Timotheus. Wrth gwrs, Jehofa ydy’r hyfforddwr gorau oll. Beth gallwn ni ei ddysgu o’i esiampl?
Dangosa’r FIDEO Imitate Jehovah as a Trainer (Joh 5:20)—Excerpt. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Pa dair gwers gallwn ni eu dysgu am Jehofa fel hyfforddwr?
9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 21 ¶1-7, blwch ar t. 166